Ofcom – Llythrennedd Cyfryngau
Cefnogom bobl ifanc i ddylanwadu ar strategaeth Ofcom wrth addysgu a siarad gyda’u cyfoedion am sut mae algorithmau yn siapio cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Cleient
Ofcom
Sector
Sector Cyhoeddus yn y DU
Partneriaid
BGC Cymru
Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
Gwasanaethau
Gwybodaeth Ieuenctid Digidol
Gwasanaethau Digidol wedi’u Cydgynllunio
Rydym wedi bod yn gweithio â Ofcom i ddarparu sgiliau llythrennedd cyfryngau ar-lein i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent mewn gosodiadau cymunedol. Cynhaliwyd sesiynau mewn cydweithrediad â Chlwb Bechgyn a Merched Cymru a Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent.
Gan ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth, casglodd ProMo Cymru fewnwelediadau i ymddygiad, gwybodaeth, a phryderon ar-lein pobl ifanc, gan ddefnyddio arolygon ar-lein a grŵp ffocws wyneb i wyneb i adnabod bylchau yn eu hanghenion llythrennedd cyfryngau.
Beth oedd y broblem?
Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod systemau algorithmig yn cael effaith sylweddol ar brofiadau, safbwyntiau a lles pobl ifanc yn yr oes ddigidol.
Rhannwyd arolwg gyda 51 o bobl ifanc 11 i 14 oed oedd yn byw ym Mlaenau Gwent, a rhai o’r canfyddiadau a ddaeth o hyn oedd:
- 47.1% yn teimlo fel mai dim ond rhywfaint o reolaeth oedd ganddynt dros y cynnwys a welsant ar-lein
- 17.6% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn teimlo fel nad oedd ganddynt unrhyw reolaeth, neu reolaeth fach iawn
- Dim ond 8% o bobl ifanc a ddangosodd dealltwriaeth o beth yw algorithm cyfryngau cymdeithasol
- Dim ond 5% o bobl fanc a ddangosodd dealltwriaeth o beth yw bybl siambr adlais / hidlo ar-lein
Ein dull
Bûm yn gweithio â grŵp llywio o bobl ifanc i gydgynllunio a chyd-gyflwyno 5 gweithdy mewn 5 clwb ieuenctid gwahanol i 85 o bobl ifanc 11-14 oed ledled Blaenau Gwent.
Ynghyd â’r grŵp llywio, penderfynom ganolbwyntio’r prosiect ar algorithmau cyfryngau cymdeithasol, yn benodol TikTok, yr app roedd y bobl ifanc yn dweud yr oeddent yn ei ddefnyddio fwyaf. Fodd bynnag, roeddem yn parhau i gydnabod y pwysigrwydd o ddatblygu ymyriad deniadol, hwyl a chofiadwy fydda’n dysgu sgiliau trosglwyddadwy a meddwl yn feirniadol gellir eu defnyddio ar draws amrywiaeth o apiau, ac ar-lein. Roeddem yn awyddus bod sgrolio cyfryngau cymdeithasol yn brofiad positif i’r bobl ifanc, gan hefyd gael rheolaeth dros eu gofod ar-lein.
Cynhyrchwyd 6 fideo byr ffurf TikTok hefyd, i godi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar algorithmau cyfryngau cymdeithasol a siambrau atsain. Darparwyd adnoddau hefyd, gan gynnwys ein fersiynau arbennig o gemau bingo algorithmau cyfryngau cymdeithasol a nadroedd ac ysgolion.
Canlyniadau
Cyn y gweithdai, dim ond 8% o gyfranogwyr oedd â dealltwriaeth o beth oedd algorithmau cyfryngau cymdeithasol, o gymharu â 92% yn dilyn y gweithdy.
Erbyn diwedd yr ymyriadau, roedd 97% o bobl ifanc yn gallu nodi o leiaf 3 gweithred gall ddylanwadu ar beth maent yn ei weld ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.
“Dwi’n aml yn gweld pethau nad ‘wy’n hoff ohonynt, a nawr dwi’n gwybod sut i newid hyn a stopio’i ddefnyddio, wrth ddefnyddio’r botwm dim diddordeb, blocio, peidio â chlicio arno, neu dreulio amser yn ei wylio,”
– Person Ifanc, 12 oed
Nid yn unig oedd y prosiect wedi cael effaith positif ar y grŵp targed o bobl ifanc, ond roedd wedi dylanwadu ar y gweithwyr ieuenctid hefyd.
Cynhaliodd ProMo gyfweliadau â nhw yn dilyn y gweithdai ac un canlyniad arwyddocaol oedd gwell dealltwriaeth o algorithmau ymhlith y gweithwyr proffesiynol.
Wrth gymryd rhan yn y gweithdai, cawsant fewnwelediad dyfnach i fecaneg a goblygiadau algorithmau cyfryngau cymdeithasol a siambrau atsain. Dywedodd un gweithiwr ieuenctid:
“Roedd fy nealltwriaeth o lythrennedd cyfryngau ac algorithmau yn fach iawn cyn y prosiect yma. Dwi wedi bod yn dysgu ac yn cynyddu fy ngwybodaeth yn ystod y prosiect. Mae’r cyfarfodydd rheolaidd, yn ogystal â phrofiad ymarferol y prosiect, wedi caniatáu i mi ddatblygu dealltwriaeth o lythrennedd cyfryngau ac algorithmau yn fy rôl fel gweithiwr ieuenctid. Dwi’n credu mod i’n deall y pwnc yn llawer gwell nawr.”
– Gweithiwr Ieuenctid
Darllenwch ein canfyddiadau yn ein hadroddiad yma.
Mae’r adroddiad hefyd yn cyfrannu at waith ehangach Ofcom, yn profi ac yn gwerthuso dulliau gwahanol i wella sgiliau llythrennedd cyfryngau ymhlith plant a phobl ifanc er mwyn gweld beth sydd yn llwyddiannus. Darllenwch ymhellach yma.