BIP Caerdydd a’r Fro – Ailfeddwl Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol
Cyflwyno gweithdai cynllunio gwasanaeth i ailfeddwl systemau yn BIP Caerdydd a’r Fro.
Mae Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro yn y broses o ail-gomisiynu holl Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol ar draws yr awdurdod.
Roedd y tîm comisiynu yn defnyddio dull arloesol a mentrus i ddatblygu’r Strategaeth Comisiynu 2020 gan ailfeddwl sut mae’r system yn gweithio yn gyfan gwbl, wrth weithio gyda darparwyr gwasanaeth a’r bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau.
Cafodd ProMo Cymru eu dewis i gyflwyno cyfres o weithdai Cynllunio Gwasanaeth mewn cydweithrediad â Ruth Jordan, Pennaeth Gwelliant a Gweithrediad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ein dull
Wrth ddefnyddio methodoleg gyfunol o Feddwl a Chysylltu Dyluniad, datblygwyd a chyflwynwyd cyfres deilwredig o bum gweithdy gyda dros 50 o weithwyr proffesiynol a phobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau yn mynychu.
Wrth ddefnyddio proses oedd yn diffinio’r sialens, adolygu’r dystiolaeth a’r data, mapio siwrne pobl a meddwl y greadigol, roeddem yn gallu dadorchuddio unrhyw broblemau, darganfod atebion newydd a chyrraedd consensws am yr hyn oedd angen newid.
Roedd sicrhau ein bod yn gwrando ar broblemau’r bobl eu hunain yn allweddol i’r broses. Bod y bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau yn rhannu eu barn. Roedd gwrando ar eu llais yn fanwl yn arbennig o bwysig, i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr hyn sydd wir yn bwysig. Gwnaethom benderfyniad i weithio’n bennaf gyda gweithwyr y rheng flaen hefyd, fydda’n gallu darparu safbwynt clir ar yr holl faterion a phryderon yn ymwneud â’r gwasanaeth.
Un o’r sylwadau ystyrlon gan ddarparwr gwasanaeth oedd bod y system bresennol wedi’i ‘drefnu fel bod pobl yn siŵr o fethu’. Mae pobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol yn arwain bywydau anhrefnus yn aml, ond mae disgwyl iddynt ddilyn system gofal strwythuredig.
“Rydym yn gorfodi strwythur ar anrhefn”
– Gweithiwr Rheng Flaen, Camdriniaeth Cyffuriau
Canlyniadau
Y prif themâu a godwyd o’r gweithdai oedd y dylai’r system newydd ganolbwyntio ar:
- Asesiad holistig sydd yn canolbwyntio ar lesiant cyfan y person
- Gwybodaeth sydyn a hygyrch a chefnogaeth gynnar
- Darparu gwasanaethau camdriniaeth sylweddau mewn cyfleusterau cymunedol generig, fel hybiau, meddygfeydd a cholegau
- Mynd i’r afael ar yr achosion a thaclo stigma
Un o’r syniadau cryfach oedd defnyddio llyw-wyr system a chefnogaeth cyfoedion i gynorthwyo pobl i lywio eu ffordd yn ddi-dor drwy’r system. Cytunwyd y dylai edrych fel un llwybr cefnogaeth hyblyg, gysylltiedig i’r byd tu allan, wedi’i deilwro i gefnogi anghenion unigol pobl.
Bydd y canlyniadau o’r gweithdai yn cael ei ddefnyddio i hysbysu’r strategaeth comisiynu.