Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – Meddwl Ymlaen
Ymchwilio i flaenoriaethau, gwytnwch a gweledigaethau pobl ifanc yng Nghymru y tu hwnt i bandemig Covid-19
Mae’r Tîm Pobl Ifanc yn Arwain Cymru (PIYA) yn dîm o bobl ifanc a benodwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (CGLG) yng Nghymru. Mae ProMo-Cymru, mewn partneriaeth â’r Ministry of Life (MoL), wedi bod yn gweithio gyda’r tîm yma i gynllunio a chyflwyno prosiect ymchwil dros gyfnod deg wythnos.
Manylion y prosiect
Roedd y prosiect yn ymchwilio blaenoriaethau, gwytnwch a gweledigaethau pobl ifanc y tu hwnt i’r pandemig Covid-19. Ei fwriad oedd adnabod sut gall cyllid y Loteri Genedlaethol gael yr effaith mwyaf positif ar bobl ifanc yng Nghymru.
Llwyddodd y tîm PIYA gynnal 60 o gyfweliadau strwythuredig, 51 arolwg digidol ac 11 cyfweliad lled-strwythuredig / grwpiau ffocws.
Darganfyddiadau’r prosiect
Llwyddodd yr ymchwil amlygu prif flaenoriaethau pobl ifanc. Mae ciplun o’r rhain yn cynnwys:
Mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl a llesiant o ansawdd
“Mae iechyd meddwl yn chwarae rhan fawr ym mywydau pobl ifanc ac mae’n cael effaith ar bopeth arall.”
Cael llais cyhoeddus a rhan yn gwneud penderfyniadau
“Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu rhoi o’r neilltu fel rhai sydd ddim yn cymryd rhan.”
Eu dyfodol – yn benodol cyfleoedd cyflogaeth a mynediad i dai
“Mae bron yn amhosib gadael cartref, ac yn anoddach fyth i beidio gorfod rhentu am weddill dy oes.”
Y celfyddydau – pryderon am effaith COVID-19 ar y theatr, cerddoriaeth a ffilm
“Mae wedi newid o bopeth ar gael am ddim i orfod talu am wersi ac offerynnau.”
Yn ogystal â’r themâu yma, roedd sawl mater arall oedd yn bwysig i bobl ifanc fu’n rhan o’r ymgynghoriad. Mae’r rhain wedi cael eu cynnwys isod yn y model cysyniadol.
Effaith
Mae’r ymchwil yma sydd wedi ei chyd-gynhyrchu wedi arwain at fewnwelediadau pwysig gan bobl ifanc ledled Cymru, yn ymwneud â blaenoriaethau, gwytnwch a gweledigaethau pobl ifanc y tu hwnt i’r pandemig Covid-19. Gellir darllen yr adroddiad lawn yma.
Mae’r ymchwil yma wedi arwain at raglen grant £10 miliwn Meddwl Ymlaen yn agor ar 26ain Mai 2021. Manylion pellach y grant Meddwl Ymlaen yma.
Gweithio gyda ProMo-Cymru
Mae ProMo-Cymru yn arbenigo mewn cefnogi sefydliadau i roi lleisiau ac anghenion pobl ifanc wrth galon prosiectau a gwasanaethau.
Am wybodaeth bellach ar Wybodaeth Ieuenctid Digidol cysylltwch.