Llwyddiant: Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Group of ProMo Cymru staff stood together, smiling for a photo with a wooden plaque to showcase the Bronze Youth Work Award.

Rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi bod ProMo Cymru wedi derbyn y Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru!

Beth ydy’r Marc Ansawdd?

Yn cael ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae’r Marc Ansawdd yn wobr genedlaethol sydd yn cefnogi ac yn adnabod gwella safonau mewn darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sydd yn darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae angen i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol er mwyn derbyn yr achrediad.

Dywedodd Andrew Borsden, Swyddog Datblygu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, “Llongyfarchiadau mawr i ProMo Cymru ar gyrraedd y Marc Ansawdd efydd.

“Mae sefydliadau fel ProMo Cymru yn cynnig gwasanaethau pwysig i lawer o bobl ifanc ledled Cymru. Rwy’n falch o weld bod gwaith caled ac ymrwymiad y tîm cyfan wedi cael ei gydnabod.”

Roedd un o’r aseswyr, Mick Conroy, wedi disgrifio ProMo fel “Ciplun o sut y dylai Gwaith Ieuenctid yr 21ain ganrif edrych”

Dywedodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo Cymru, “Rydym yn falch iawn o’r bobl ifanc rydym yn gweithio â nhw, ein staff, a chyflawni’r Marc Ansawdd Efydd – mae’r broses wedi helpu i’n harwain yn bositif tuag at y dyfodol.”

Bronze Youth Work Award Logo

Ymdrech Tîm

Hoffem ddiolch i’r bobl ifanc a gyfrannodd tuag at ProMo yn derbyn y wobr hon. Mae hyn yn cynnwys yr Ymchwilwyr Cyfoed sydd yn rhan o’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent, y bobl ifanc sydd yn rhan o Radio Platfform, a’r bobl ifanc sydd wedi gweithio ar TheSprout. Eu lleisiau a’u profiadau nhw sydd wrth galon ein gwaith. Eu gwytnwch, creadigrwydd a’u hangerdd nhw sydd yn ein hysbrydoli’n barhaol.

Hoffem hefyd fynegi ein gwerthfawrogiad mawr i’r staff, profwyd bod eu gwaith nhw yn cael effaith bositif ar fywydau pobl ifanc.

Dywedodd Sue Hayes, ein Rheolwr Cymorth Corfforaethol, “Wrth fy modd cael cyfle i arwain ar gwblhau’r hunanasesiad Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn llwyddiannus.

“Mae’r cyflawniad yma yn gam sylweddol yn ein hymrwymiad i ddylunio, adeiladu, ac eirioli gyda phobl ifanc a chymunedau er mwyn gwneud i bethau da ddigwydd.”

Group of ProMo Cymru staff stood together, smiling for a photo with a wooden plaque to showcase the Bronze Youth Work Award.

Cyfle i hunan fyfyrio a datblygu

Mae gwneud cais am y Marc Ansawdd Efydd hefyd wedi rhoi cyfle gwych i ni fyfyrio ar ein harferion a’n gwasanaethau. Mae wedi atgyfnerthu ein methodoleg o Ddylunio Gwasanaeth.

Mae wedi ein hannog i ailadrodd yn barhaus i wella ansawdd y gwaith ieuenctid rydym yn darparu i bobl ifanc Cymru. Mae’r cyflawniad yma yn gymhelliant i fireinio ein strategaethau, addasu i anghenion newidiol, ac archwilio ffyrdd arloesol o rymuso a chefnogi pobl ifanc.

Halyna Soltys
3 Tachwedd 2023

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

ERYICA staff and Halyna stood in front of a sign at the EYWC in Malta
star

Newyddion

O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd

Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta. Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid. O’r cychwyn cyntaf, roedd y […]

MoFG Peer Service Designer sat on a sofa with their feet up, using a laptop for research
star

Cynllunio Gwasanaeth

Trawsnewid Mynediad at Iechyd Meddwl Ieuenctid Wrth Gyd-gynhyrchu yng Ngwent

Young people and mental health professionals are working together to directly improve services for youth in Gwent. Young people co-leading the Mind Our Future Gwent (MoFG) project have been working with Gwent SPACE-Wellbeing Panels to improve access to mental health services. The panels are a single point of access for children’s emotional wellbeing and mental […]

Group photo of 5 young people and 3 staff members
star

Cydgynllunio

Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Gweithredu Ieuenctid i Ysgogwyr Newid

Empowering young people aged 16-25 to actively contribute to the ongoing dialogue and development of mental health support in England and Wales. The Youth Action Away Day for Changemakers was a collaboration between Youth Access and ProMo Cymru. This extension project aimed to give young people an opportunity to consider the next steps for the […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889