Crwydro Caerdydd: Cyfnewid Ieuenctid o Ffrainc
Yn ddiweddar, croesawodd ProMo Cymru berson ifanc o Ffrainc ar ymweliad cyfnewid pum niwrnod a ariannwyd gan Taith. Roedd hyn yn dilyn grŵp o bobl ifanc o Gaerdydd fu’n ymweld â Nantes fis Hydref diwethaf
Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol, ble gall rhywun ymgolli eu hunain yn niwylliant a diwydiannau creadigol gwlad arall, gan wneud yr ymweliad dychwelyd yma yn barhad cyffrous o’r cyfnewid yn 2024. Daeth Tristan Provost o Nantes i grwydro Caerdydd, gan adeiladu ar dros 60 mlynedd o efeillio rhwng y ddwy ddinas. Mae Tristan, yn ei eiriau ei hun, yn rhannu ei brofiad o brifddinas Cymru. Dyma ef yn myfyrio ar argraffiadau cyntaf a digwyddiadau allweddol ei ymweliad.


Castell Caerdydd
Dydd Llun
Y tro cyntaf i mi gyfarfod â Chaerdydd oedd trwy ffenestr y bws. Mae’n ddinas mor swynol, gyda’i thafarndai, tai brics, a digonedd o fannau gwyrdd. Ar ôl cyrraedd, cefais damaid i fwyta yn ‘Spoons’ gyda Marco, Prif Weithredwr ProMo Cymru, tafarn sy’n boblogaidd iawn gyda’r bobl iau. Gyda batri lawn, aethom i grwydro’r strydoedd, gweld yr orielau, y castell, y farchnad, a hyd yn oed tafarn Gareth Bale am y tro cyntaf.


Dydd Mawrth
Y bore cyntaf yng Nghaerdydd, ac es i draw i gynhadledd Atseinio. Rhoddodd gipolwg hynod ddiddorol i mi ar heriau hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig wrth geisio cyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru. Yn y prynhawn, cyfarfûm â fy ffrindiau Mari a Mayla. Aethom i Sain Ffagan, taith ryfeddol i’r gorffennol. Yn ôl yng Nghaerdydd, cefais fy nhywys gan y merched o gwmpas canol y ddinas, a chael blasu’r pice ar y maen enwog o’r diwedd – blasus iawn! Ac i orffen, draw i CLWB ar gyfer gig WH Lung, sioe anhygoel gyda thorf mor amrywiol.
Dydd Mercher
Ar fy ail ddiwrnod, es i draw i gynhadledd ‘Siapio’r Dyfodol’. Roedd y gynhadledd yn cyflwyno sgyrsiau ar ffurf podlediadau gyda phobl allweddol ym myd cerddoriaeth Caerdydd, gan gynnwys rheolwyr cyngherddau a threfnwyr digwyddiadau. Yno, cyfarfûm ag Iestyn, cerddor hynod gyfeillgar a dawnus, yng nghwmni ei gi selsig ffyddlon wedi’i wisgo mewn siwmper las. I ginio, cefais fwyd Mecsicanaidd blasus yn y farchnad, iym! Yn y prynhawn, ymwelais ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a chael fy syfrdanu gan y casgliad trawiadol o luniau ar y 4ydd llawr. Yna, draw i’r bae i wylio’r machlud. Wrth iddi droi’n nos, cefais fy nhywys o gwmpas y ddinas gan fy ffrind Emyr, a chyfle i gael blas o arbenigeddau lleol, o ddanteithion lliwgar Albany Road i dafarndai clyd.

Dydd Iau
Cerddais i stadiwm pêl-droed trawiadol Caerdydd. Mynychais gynhadledd ieuenctid a thrafod sut y gall chwaraeon a chelf helpu i adeiladu a chryfhau cymunedau. Yn y prynhawn, ymwelais â Pharc Bute a chwrdd â’i drigolion gwiwerod niferus cyn mynd draw i gwrt y castell. Yna archwiliais yr ardal ‘swyddogol’, gan edrych ar adeiladau’r llywodraeth, Prifysgol Caerdydd, a Pharc Cathays. Gorffennais y diwrnod yn gwylio gêm yn y City Arms, tafarn chwaraeon hyfryd.
Dydd Gwener
Roedd yn amser dychwelyd i Ffrainc. I gychwyn y diwrnod olaf, prynodd Marco frecwast blasus i mi ym Marchnad Caerdydd, lle cawsom frecwast traddodiadol gyda selsig, wyau, tost, a ffa pob. Gyda bol llawn a chalon drom, ffarweliais â Chaerdydd.

Myfyrdod
Daeth y cyfnewid hwn â phobl ifanc ynghyd i rannu profiadau, archwilio diwylliannau newydd, a meithrin cysylltiadau. O gerddoriaeth a hanes, i fwyd a ffrindiau newydd. Roedd ymweliad Tristan â Chaerdydd yn enghraifft wych o sut y gall teithiau cyfnewid ieuenctid ysbrydoli a dod â chymunedau’n agosach.
Mae ProMo Cymru yn falch o gefnogi cyfleoedd fel hyn – cysylltu pobl ifanc, sbarduno syniadau newydd, a meithrin cysylltiadau ar draws ffiniau. Mae chwarae rhan allweddol yn y cyfnewid hwn yn cyd-fynd â’n cenhadaeth i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau’n cael eu hysbysu, eu cynnwys, eu cysylltu â’u clywed. Diolch enfawr i Taith am wireddu hyn, ac i Tristan am rannu hanes ei daith gyda ni!
Megan Lewis
18 Mawrth 2025
Newyddion
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]
Newyddion
Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd
Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]
Llinell Gymorth
Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng
Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]