Metrig Ystyrlon: Dewis y Metrig Cywir i’ch Prosiect Digidol
Awdur: Charlotte Newman;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae’r adnodd hwn ar gyfer:
- Arweinwyr digidol mewn elusennau bach
- Uwch reolwyr sydd â chyfrifoldeb am brosiect digidol ac adrodd i gyllidwyr
- Arweinwyr data, dysgu a gwerthuso – gyda chyfrifoldeb am ddadansoddi ac adrodd
Bydd yn dangos i chi sut i nodi metrig sy’n rhoi:
- Dealltwriaeth sylfaenol i chi o ba mor aml mae rhywbeth yn (e.e. x buddiolwyr yn derbyn y)
- Gwybodaeth weithredol o’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd ddim ar draws eich prosiect digidol.
Bydd hefyd yn rhoi cyngor i chi ar sut i dracio metrig yn rhwyddach.
Beth yw metrig ystyrlon?
Metrig ystyrlon yw metrig sydd â gwerth ymarferol. Bydd yn:
- Rhoi persbectif clir i chi ar gynnydd eich prosiect.
- Eich helpu i weld pa welliannau fydd yn cyflawni’r effaith fwyaf ar gyfer eich defnyddwyr.
Sut mae hyn yn wahanol i fonitro a gwerthuso?
Mae ymdrechion monitro a gwerthuso traddodiadol fel arfer yn canolbwyntio ar fesur canlyniadau blynyddol neu ganlyniadau diwedd prosiect. Gwneir hyn wrth wirio os yw gweithgareddau a gynlluniwyd wedi cyflawni eu canlyniadau disgwyliedig.
Mae mesur llwyddiant prosiect digidol yn wahanol. Mae’n defnyddio mewnwelediadau byw defnyddwyr i helpu i arwain datblygiad. Mae hyn yn gofyn am broses barhaus.
Mae gan brosiectau digidol fwy o bwyntiau data
Mae’n debygol y bydd gan brosiectau digidol fwy o bwyntiau data i chi dynnu ohonynt.
Er enghraifft, bydd prosiect ar y we gyda dadansoddeg wedi’i fewnosod yn dweud llawer wrthych chi am sut mae pobl yn defnyddio’ch gwefan. Neu efallai byddech yn defnyddio’ch CRM i anfon arolygon rheolaidd i’ch defnyddwyr. Bydd eu hymatebion yn darparu syniadau ac adborth ar eich gwasanaeth neu brosiect.
Byddech yn parhau i chwilio am nodweddion dangosydd meintiol neu ansoddol rhagorol. Ond mae prosiectau digidol yn ei gwneud yn haws cynllunio’ch systemau i gasglu llawer o’r wybodaeth i chi. Mae hyn yn lleihau lefel y gwaith llaw wrth gasglu data.
Anelwch am gyfuniad o fathau o fetrig
Mae pedwar math o ddata. Defnyddiwch nhw gyda’i gilydd i gael darlun clir, cyfannol o sut mae’ch prosiect yn datblygu.
I gychwyn, grwpiwch eich metrig i’r mathau data canlynol:
- Ansawdd: Mae metrig ansawdd yn dangos pa mor dda mae’ch prosiect neu wasanaeth digidol yn gwneud yr hyn y mae’n dweud ei fod yn gwneud. Er enghraifft, gallai fod yn ystadegyn cyflawni allweddol neu’n sgôr adborth defnyddwyr.
- Cyrhaeddiad: Mae metrig cyrhaeddiad yn eich helpu i ddeall sut mae’ch defnyddwyr yn dod o hyd i chi. Osgowch fetrig gwagedd fel faint o bobl a ymwelodd â’ch gwefan. Yn lle hynny, canolbwyntiwch ar ddarganfod metrig mwy ystyrlon. Gall hyn gynnwys niferoedd cofrestru newydd neu ba sianeli marchnata sy’n cynhyrchu’r mwyaf o ymatebion.
- Ymgysylltiad: Bydd metrig ymgysylltu yn datgelu gwerth eich prosiect digidol i’ch defnyddwyr. Nodwch ddata sy’n dangos sut mae pobl yn ymgysylltu â’ch cynnyrch. Archwiliwch ble mae ymgysylltiad yn cael ei golli. Er enghraifft, gall hyn fod yn sawl defnyddiwr sy’n trosi o gofrestru i gymryd rhan mewn gweithgaredd. Neu gall fod yn rhoddwr cyhoeddus yn dewis gwneud rhodd dro ar ôl tro.
- Cost: Bydd metrig cost yn eich helpu i nodi ble i wneud effeithlonrwydd gwariant. Byddant yn eich arwain ar ba welliannau gwasanaeth y dylech fuddsoddi ynddynt i gael y gwerth mwyaf am eich arian.
Byrhau eich rhestr o fetrig
Mae angen i chi benderfynu pa 8-10 metrig o’r 4 grŵp yma yw’r rhai mwyaf ystyrlon i’w tracio. Grwpiwch ar fatrics gwerth/ymdrech i nodi pa rai fydd yn cyrraedd eich anghenion orau.

Chwiliwch am y rhinweddau ‘gwerth uchel’ yma i fesur pa fetrig fydd fwyaf ystyrlon:
- Symlrwydd: dylai metrig da fod yn hawdd i bawb ei ddeall. Mae symlrwydd hefyd yn ffordd i gadw ffocws yn fwy effeithiol. Er enghraifft: cyfanswm nifer y defnyddwyr gwasanaeth, nifer y cwynion, eich sgôr hyrwyddwr net.
- Sensitifrwydd: bydd metrig da yn ymateb i newidiadau uniongyrchol a wnewch yn fwy na ffactorau allanol. Er enghraifft, os ydych chi’n cynyddu eich gwariant hysbysebu ar ‘x’, mae’n debygol y bydd ‘y’ yn digwydd.
- Amseroldeb: ystyriwch faint o amser y bydd yn ei gymryd i gasglu’r data metrig a pha mor aml y bydd angen i chi wneud hynny. Er enghraifft, yn wythnosol, yn fisol, yn chwarterol neu’n flynyddol.
- Cynrychioliadol: hen gyd-destun dangosyddion eraill, gall metrig ar ei ben ei hun fod yn ddiystyr. Defnyddiwch fetrig sy’n gwneud synnwyr pan gaiff ei driongli yn erbyn pwyntiau data eraill. Bydd hyn yn rhoi darlun mwy cywir i chi o’r hyn sy’n digwydd. Er enghraifft, faint o bobl sydd wedi lawrlwytho adnodd o’ch gwefan. Mae hyn yn fwy cynrychioliadol na mesur faint a ymwelodd â’r tudalen we.
Gwnewch ddewis terfynol
Edrychwch ar eich matrics a dewiswch 2-3 metrig gorau ar gyfer pob math o ddata (ansawdd, cyrhaeddiad, ymgysylltiad a chost). Mae’r rhain yn ffurfio eich 8-10 metrig ystyrlon.
Mae cadw gyda’r fformiwla 8-10 yn bwysig. Dyma’r ffordd orau o greu cyfuniad o fetrigau ar gyfer y ddau sy’n hawdd ei drin:
- dealltwriaeth dda o faint mae rhywbeth yn digwydd
- gwybodaeth weithredol o’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd ddim
Tracio ar waith
Gall metrig ystyrlon fod yn rhif syml gellir ei godi o’ch system CRM. Ond gall hefyd gynnwys cyfrifiad y mae angen i chi ei wneud gan ddefnyddio dwy ffynhonnell ddata neu fwy. Er enghraifft, os ydych chi’n cyfrifo cyfradd drosi, bydd angen i chi wybod faint o ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru a faint sydd wedi cymryd camau gweithredu.
Rhestrwch pa ddata y bydd ei angen arnoch ar gyfer pob metrig, o ble mae’n dod, pwy sy’n ymdrin â’i gasglu, a pha mor aml y dylid ei gasglu.
Creu ffynhonnell gwirionedd
Dewch â’ch holl ddata metrig allweddol at ei gilydd mewn un lle. Bydd hyn yn eich galluogi i ddelweddu cynnydd eich prosiect digidol. Gallwch hyd yn oed greu golygfeydd data ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Bydd hyn yn meithrin ymddiriedaeth, yn rheoli disgwyliadau ac yn cadw pawb yn gyfun.
Gall taenlenni Google neu Excel fod yn rhad ar gyfer tracio metrig. Maent yn gweithio dros amser ac yn gadael i chi greu tablau neu siartiau ‘pivot’ i helpu i egluro’r data.
Mae yna hefyd amrywiaeth o adnodau delweddu data rhad fel Databox a PowerBI. Mae’r rhain yn eich galluogi i gyfuno data o wahanol ffynonellau, fel sianeli cyfryngau cymdeithasol a systemau CRM.
Tracio llai o bethau’n well
Bydd tracio ychydig o bethau’n dda dros amser yn sbarduno gwelliannau yn y meysydd sydd bwysicaf i’ch defnyddwyr.
Rhowch gynnig ar gynnwys 1-2 fetrig allweddol yn eich cyfarfodydd tîm wythnosol i gadw pawb yn ymgysylltu â thaith eich prosiect digidol.
Newid eich metrig
Mae’n debygol y bydd eich metrig arwyddocaol yn esblygu a newid wrth i’ch prosiect symud ymlaen. Mae hyn yn digwydd fwyaf wrth i chi symud o ddatblygu i lansio. Ond os byddwch chi’n sefydlu arfer tryloyw, sy’n cael ei arwain gan ddata, ar gyfer meincnodi gwersi a chynnydd yn gynnar, byddwch chi mewn sefyllfa gref ar gyfer llwyddiant hirdymor.
Gwybodaeth bellach
Pwyntiau cyfeirio ar gyfer rhai o’r canllawiau yn yr erthygl hon, ynghyd ag enghreifftiau metrig:
Eisiau gweld rhai enghreifftiau go iawn o Ganllawiau Digidol a Rennir?
- Darllenwch Ganllaw ar sut mae Citizens UK wedi sefydlu system fonitro a gwerthuso gan ddefnyddio Airtable.
- Darllenwch Ganllaw ar sut mae The Key yn defnyddio Zoho Creator i fonitro gweithgaredd ac effaith prosiectau.
Credyd delwedd: Ana C ar Flickr
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst