Gwefannau Elusen: 8 Awgrym i’ch Tudalen Cartref i Ganolbwyntio ar y Defnyddiwr
Awdur: Lauren Pope;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Gall gweithio ar dudalen cartref gwefan deimlo fel prosiect sydd â llawer yn fantol. Dyma’r ffenestr siop i’ch elusen, mae rhanddeiliaid eisiau dweud eu dweud, ac mae yna lawer o bwysau i greu rhywbeth perffaith.
Gellir gwneud hyn yn llai brawychus gyda dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan ddechrau gyda chynnwys, ac anghofio am y syniad o berffeithrwydd. Dyma awgrymiadau ar sut i gynllunio eich tudalen gartref a mewnwelediadau o arolwg gyda 30 o elusennau.
1. Byddwch yn glir ar swyddogaeth eich tudalen gartref
Y broblem gyda nifer o dudalennau cartref yw ein bod yn colli persbectif ac yn ceisio plesio pawb. Ond mae gwneud gormod yn gallu creu tudalen gartref hir, anniben, a dryslyd.
Nid oes rhaid i’ch tudalen gartref arddangos yr holl bethau bach rydych chi’n ei wneud, yn cynnig dolenni i bethau sydd heb gartref, neu gadw’r Prif Swyddog yn hapus. Pwrpas tudalen gartref yw gwneud un neu ddau o’r pethau canlynol:
- Dangos i bobl beth yw eich sefydliad: Ar gyfer defnyddwyr sy’n newydd i’ch brand ac sydd angen deall pwy ydych chi a’r pham bod eich gwaith yn bwysig
- Helpu pobl i lywio’ch gwefan: Nid ydynt yn dod i’ch tudalen gartref i edrych arno yn unig. Maent eisiau llywio i rywbeth arall sy’n eu helpu i gwblhau tasg.
I ddeall mwy am y swydd sydd gan eich tudalen gartref, edrychwch ar eich data dadansoddeg a chwilio. Darganfyddwch:
- Faint o bobl sy’n glanio ar eich tudalen gartref o gymharu â thudalennau eraill eich gwefan?
- Sut mae pobl yn cyrraedd eich tudalen cartref? Chwilio organig, hysbysebu talu fesul clic, dolen gyfeirio, neu’n uniongyrchol?
- Pa gyfran o bobl sy’n chwilio am enw eich elusen, neu ydynt yn chwilio am eich cynnwys am wasanaethau, pynciau, ac ati?
- Beth yw’r llwybrau ymlaen mwyaf cyffredin o’ch tudalen gartref? Ble mae pobl yn debygol o fynd nesaf?
2. Adnabod eich defnyddwyr a’u hanghenion
Mae’n hanfodol cael dealltwriaeth dda o bwy sy’n defnyddio’ch gwefan a pham. Os oes gennych ymchwil defnyddwyr, adolygwch ef i gael dealltwriaeth o’ch defnyddwyr a’u hanghenion. Rydych chi’n casglu tystiolaeth ac adeiladu achos fel y gallwch wneud y penderfyniadau cywir, dangos sut y cyrhaeddoch chi’r penderfyniadau yma, a chefnogi eich dadl yn nes ymlaen. Canolbwyntiwch ar ddatgelu a dogfennu:
- Anghenion defnyddwyr: beth sydd ei angen arnynt a pham?
- Grwpiau defnyddwyr: pa persona neu grŵp maen nhw’n rhan ohono?
- Teithiau defnyddwyr: pryd ar eu taith y maen nhw’n debygol o ddefnyddio’r dudalen gartref?
Os nad ydych chi’n glir ar anghenion defnyddwyr ac nad oes gennych unrhyw ymchwil defnyddiwr i dynnu ohono, mae’n werth oedi a buddsoddi ychydig o amser yn hyn.
3. Deall eich strategaeth
Ymgyfarwyddwch â strategaeth neu genhadaeth gyffredinol eich sefydliad. Dylai eich hafan fod yn gweithio i gefnogi eich nodau strategol, felly mae angen i chi fod yn glir ar beth ydynt cyn i chi ddechrau. Dylai eich amcanion gael effaith fawr ar ddyluniad cynnwys eich tudalen gartref. Os mai derbyn rhoddion yw eich ffocws strategol mwyaf, yna mae angen i’ch tudalen gartref fod yn wahanol iawn o gymharu â ffocws i ddarparu gwasanaethau neu recriwtio gwirfoddolwyr.
4. Ymgysylltu â’ch rhanddeiliaid
Gall rhanddeiliaid fod yn hanfodol i lwyddiant eich tudalen gartref. Er bod eu barn nhw’n bwysig, ac maent yn ffynhonnell syniadau da, os ydych chi’n canolbwyntio arnyn nhw’n unig yna mae’n beryg i chi fod â thudalen sydd ddim yn ymateb i ofynion eich defnyddwyr. Felly mae angen i chi gydbwyso eu dymuniadau nhw ag anghenion eich defnyddwyr a blaenoriaethau strategol i osgoi tudalen sy’n ymwneud â’r sefydliad yn unig.
Mae’n bwysig ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y broses. Ar gychwyn prosiect, gofynnwch am eu barn, beth maen nhw’n dymuno o’r tudalen cartref a pham. Yna, yn ystod weddill y prosiect, rhowch ddiweddariadau, dangoswch eich ymchwil a’ch tystiolaeth. Mae sgyrsiau rheolaidd, agored yn rhoi’r cyfle gorau i chi osgoi’r sgyrsiau “Ond mae fy mheth i angen bod ar frig y dudalen” yn hwyrach ymlaen.
5. Cofiwch fod ‘perffaith’ yn amhosibl
Nid oes y fath beth â thudalen gartref perffaith. Ni allwch wasanaethu pob angen neu gadw pawb yn hapus – mae rhaid cael cyfaddawd.
Mae angen i chi flaenoriaethu a chael nod clir mewn golwg. Mae hefyd angen cofio y bydd llawer o bobl yn glanio ar dudalennau eraill ar eich gwefan trwy chwiliadau Google, atgyfeiriadau a dolenni. Felly os nad yw rhywbeth ar y dudalen gartref, nid yw hynny’n golygu ei fod yn anweledig.
6. Cychwyn gyda’r cynnwys
Mae’n gyffredin iawn cychwyn gyda ffrâm weiren neu ddyluniad, yna ei lenwi â chynnwys. Ond y broblem gyda hynny yw ei fod yn blaenoriaethu ffurf dros swyddogaeth. Yn lle hynny, cychwynnwch y broses ddylunio trwy feddwl am y cynnwys rydych chi’n mynd i’w ddefnyddio a pham.
Gall helpu cael rhai syniadau o’r hyn y mae elusennau eraill yn ei roi ar eu tudalennau cartref. Mae arolwg o 30 elusen wedi dangos bod 53 elfen cynnwys gyffredin o fewn 10 categori gwahanol. Y 10 elfen cynnwys fwyaf cyffredin oedd:
- Newyddion/blog: crynodebau a dolenni i bostiadau/straeon diweddar (ar 73% o dudalennau cartref)
- Llinell tag/cenhadaeth/disgrifiad (63%)
- Cyfrannu rhodd: galwad i weithredu cyffredinol (53%)
- Tanysgrifiad e-bost: galwad i weithredu tanysgrifio (47%)
- Ymgyrch/deiseb: galwad i weithredu ymgyrch benodol (43%)
- Recriwtio gwirfoddolwyr: galwad i weithredu gweld swyddi neu fanylion pellach (40%)
- Gwybodaeth/help/cyngor: dolenni i dudalennau pynciau neu gategorïau (37%)
- Gwybodaeth/help/cyngor: dolenni i ddarn penodol o gynnwys (33%)
- Amdanom ni/beth rydyn ni’n ei wneud: dolen neu ddolenni i ddarganfod mwy am yr elusen (33%)
- Cymryd rhan/ein cefnogi: galwad i weithredu i ddarganfod mwy am gefnogi’r elusen (33%)
Gweld y 53 elfen gyffredin cynnwys tudalennau cartref
7. Bod yn ymwybodol o’r plyg
Mae’r plyg yn cyfeirio at waelod tybiannol y dudalen cyn i rywun orfod sgrolio i weld mwy. Mae’r hyn rydych chi’n ei roi uwchben y plyg ar eich hafan yn bwysig iawn, ond nid am nad yw defnyddwyr yn sgrolio – myth yw hynny. Bydd defnyddwyr yn sgrolio, ond dim ond os ydych chi’n rhoi ‘arogl gwybodaeth’ da iddynt ar frig y dudalen. Mae pobl angen y cliwiau yma i wybod eu bod yn y lle iawn a byddant yn dod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt wrth sgrolio.
Allan o’r 53 elfen wahanol a ymddangosodd yn yr arolwg, dim ond 10 a ymddangosodd fel yr elfen gyntaf ar y dudalen gartref:
- Llinell tag/cenhadaeth/disgrifiad (elfen gyntaf 37% o’r amser)
- Cyfrannu rhodd (20%)
- Ymgyrch/deiseb (13%)
- Digwyddiad codi arian: galwad i weithredu digwyddiad codi arian penodol (7%)
- Gwybodaeth/help/cyngor: tudalen pynciau/categori (3%)
- Gwybodaeth/help/cyngor: darn penodol o gynnwys (3%)
- Llinell gymorth/llinell gyngor: galwad i weithredu e-bost/sgwrs ar-lein/rhif ffôn (3%)
- Gwasanaethau: blwch chwilio neu offeryn canfod ar gyfer gwasanaethau (3%)
- Cyllid: galwad i weithredu gwneud cais am gyllid (galwad i weithredu/gwneud cais) (3%)
- Carwsél delweddau (3%)
Yr elfen gyntaf fwyaf cyffredin oedd llinell tag, cenhadaeth, neu ddisgrifiad. Mae llinell tag yn elfen ddiogel i’w chael fel yr elfen gyntaf ar y dudalen, gan ei fod yn debygol o gyd-fynd ag anghenion y defnyddiwr.
Yr elfen fwyaf cyffredin nesaf oedd galwad i weithredu i gyfrannu at ymgyrch benodol, ac yna dolenni i ymgyrchoedd neu ddeisebau. Efallai y bydd gan yr elfennau hyn oes silff fer ac mae angen eu newid yn rheolaidd. Os ydych chi’n dewis elfen fel hyn i ddod yn gyntaf, sicrhewch eich bod yn dilyn angen defnyddiwr ac nid dymuniadau rhanddeiliaid.
8. Deall eich bod chi’n tynnu edau rydd
Gall gweithio ar eich tudalen gartref deimlo fel eich bod yn tynnu ar edau rydd sy’n dadwneud eich gwefan gyfan. Trwy ganolbwyntio ar anghenion eich defnyddwyr, strategaeth, a sut mae pobl yn llywio’ch safle, mae’n debygol iawn y byddwch chi’n darganfod llawer iawn y byddech chi eisiau newid.
Ond nid yw hyn yn golygu bod angen i chi newid y safle cyfan i ailgynllunio’r dudalen gartref. Nid oes angen i chi wneud popeth ar unwaith. Newidiwch y dudalen gartref gymaint ag y gallwch heb dorri gweddill y wefan, neu greu teithiau dryslyd i ddefnyddwyr. Gallwch ddefnyddio eich dysgu i wneud yr achos dros newidiadau eraill.
Mwy o adnoddau defnyddiol
- Sut I Greu Hafan Gwefan Elusen Wych
- Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw A Pham Ei Fod Yn Bwysig
- Deall Anghenion Eich Defnyddwyr
- Pam Mae’r Plygu Tudalen Yn Dal I Fod Yn Bwysig
- Datblygiad Ailadroddol: Ei Athroniaeth A’i Fanteision
- Beth Rydyn Ni’n Ei Olygu Gyda Digidol
Llun gan Baldiri ar Flickr. Ailddefnyddir o dan drwydded.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst