Signapse: Defnyddio AI i Wella Hygyrchedd i Ddefnyddwyr BSL
Mae ProMo Cymru yn partneru â Signapse AI i droi cynnwys digidol yn fwy hygyrch gyda Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Mae ProMo yn defnyddio’r bartneriaeth hon i archwilio sut y gall cyfieithu BSL â chymorth AI gefnogi cyfathrebu digidol wrth arbed amser a lleihau rhwystrau i weithredu.
Mae Signapse yn sefydliad Byddar yn gyntaf sy’n defnyddio AI i gyfieithu cynnwys ysgrifenedig yn fideos iaith arwyddion o ansawdd uchel. Gellir mewnosod y cyfieithiadau yma’n uniongyrchol i wefannau gan ddefnyddio ategyn syml, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at gyfieithiadau BSL mewn amser real wrth iddynt ryngweithio â chynnwys tudalen. Yn ystod y cyfnod datblygu yma, cefnogir y dechnoleg gyda dull person yn rhan o’r broses, lle mae cyfieithwyr BSL cymwys yn adolygu’r AI tra ei fod yn parhau i ddysgu.

I gefnogi datblygiad parhaus y dechnoleg, rydym wedi rhannu 170 o erthyglau o’n gwefan i helpu i hyfforddi system AI Signapse.
Mae Signapse yn datblygu’r dechnoleg yma gyda chefnogaeth prosiect gwerth $1.5 miliwn a ariennir gan Google. Fel rhan o’r gwaith yma, gall nifer gyfyngedig o sefydliadau trydydd sector yn y DU ac UDA gyfieithu hyd at 10 tudalen gwefan i Iaith BSL neu ASL.
Rydym yn falch o fod yn un o’r sefydliadau a ddewiswyd i gymryd rhan. Rydym wedi gweithio gyda Signapse i gyfieithu ein cyfres adnoddau ‘Creu Gwasanaethau Cynhwysol‘.
Ar hyn o bryd, mae’r ategyn yma a ddarperir gan Signapse ar gael ar gyfer tudalennau Saesneg yn unig wrth iddynt weithio ar berffeithio’r defnydd o AI. Maent wedi ymrwymo i archwilio’r posibilrwydd o ehangu i ieithoedd eraill yn y dyfodol. I ddysgu mwy am gynnig Signapse i sefydliadau’r trydydd sector, cliciwch yma.
Tania Russell-Owen
11 Ionawr 2026
ProMo Cymru
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]
Newyddion
Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd
Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]
Llinell Gymorth
Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng
Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]