Cyd-gynllunio fideos cyfryngau cymysg i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru wrth iddynt drawsnewid o ofal diabetes pediatrig i ofal diabetes oedolion

star

Cleient

SEREN Connect (GIG Cymru)

star

Sector

Iechyd

star

Partneriaid

star

Gwasanaethau

Cyd-gynhyrchu
Cynhyrchu cyfryngau

Gall y trawsnewid o ofal iechyd pediatrig i ofal iechyd oedolion fod yn garreg filltir anodd i bobl ifanc â diabetes.

Nododd SEREN Connect, rhaglen genedlaethol yng Nghymru, bod angen adnoddau deniadol a pherthnasol a allai helpu pobl ifanc i ddeall bod cefnogaeth ar gael iddynt yn ystod y trawsnewidiad hwn.

Beth oedd y broblem?

Gall symud i ffwrdd o dîm pediatrig cyfarwydd fod yn annodd iawn i bobl ifanc, ond nid y gofal clinigol yn unig yw’r her – mae’n ymwneud â llywio oedolaeth ifanc. Roedd angen i’r prosiect fynd i’r afael â gwir brofiadau a phryderon y bobl ifanc wrth iddynt ddod yn annibynol. Mae hyn yn cynnwys pynciau ymarferol, bob dydd fel dysgu gyrru, cymdeithasu ac yfed yn ddiogel, a rheoli eu cyflwr wrth iddynt aeddfedu.

Roedd angen i’r cynnwys fod yn ddwyieithog, yn gyfeillgar i ieuenctid, ac yn wir cynrychioli profiadau amrywiol o fewn y gymuned diabetes yng Nghymru.

Ein Dull

Defnyddiwyd cyd-gynllunio er mwyn sicrhau bod y fideos yn adlewyrchu profiadau bywyd pobl ifanc â diabetes yn y ffordd orau. Cynhaliwyd cyfres o weithdai wyneb yn wyneb yn Abertawe, gan ddod â phobl ifanc a rhieni ynghyd i arwain ar y broses greadigol.

Archwiliwyd yr heriau a’r ‘pwyntiau poen’ mewn dau sesiwn cyd-gynllunio i ddeall profiadau y bobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod y cyfnodau pontio. Roedd y bobl ifanc yn arwain ar siapio’r cynwys a’r fformat, gan adolygu fideos cyfeirio, a dewis arddulliau animeiddio a oedd yn teimlo’n berthansol iddynt.

Datblygwyd dull cyfryngau cymysg a gyfunodd animeiddiadau cyfeillgar i bobl ifanc â chyfweliadau byw. Gweithiodd ein tîm yn agos gyda’r bobl ifanc, ac roedd rhai ohonynt yn rhan o’r diwrnod ffilmio hefyd!

Canlyniadau

Cynhyrchwyd tri fideo dwyieithog yn Saesneg a Chymraeg sydd bellach yn cael eu cyflwyno ar draws GIG Cymru.

Mae’r fideos yn ymdrin â’r daith drawsnewid o safbwyntiau pobl ifanc, eu teuluoedd, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol – gan fynd i’r afael â phopeth o’r trosglwyddiad meddygol i’r realiti o reoli diabetes fel oedolyn ifanc.

Bu ymrwymiad anhygoel gan y cyfranogwyr ifanc yn ystod y prosiect, gan sicrhau bod y cynnyrch terfynol “ar eu cyfer nhw a chanddyn nhw.”

Rhannodd Sara Crowley, Cydlynydd Cenedlaethol Gofal Pontio Diabetes y GIG:

“Rwy’n caru’r fideos, a ni allwn deimlo’n fwy balch o’r ymgysylltiad gan y bobl ifanc drwy gyfnod y prosiect hwn. Mae’r ffordd y mae eich tîm wedi’i wireddu yn wych. Hoffwn hefyd adleisio pa mor wirioneddol hyfryd oedd y profiad o weithio gyda’ch tîm, o’r cychwyn i’r diwedd. Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i gyflawni’r prosiect hwn. Mae gen i dîm sydd eisoes yn awyddus i ddefnyddio’r fideos.”

Mae effaith y prosiect yn ymestyn y tu hwnt i’r canlyniadau cychwynnol. Defnyddiodd un o’r cyfranogwyr ifanc, Imogen, y cysylltiadau a wnaed â staff Diabetes UK yn ystod y diwrnod ffilmio i ymuno â’r rhaglen Together Type 1. Ers hynny mae hi wedi ffynnu fel Arweinydd Ifanc, gan gyflwyno sgyrsiau sy’n ymestyn effaith y prosiect ymhell y tu hwnt i’r sgrin.

Gallwn eich helpu i gyflawni’r un peth

Cysylltwch â daniele@promo.cymru os oes gennych ddiddordeb creu cyfryngau trwy gyd-gynhyrchu.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889