
Yr her
Roeddem eisiau profi sut y gallwn ddefnyddio TikTok i ymgysylltu â phobl ifanc ar gyfer ein prosiect gwybodaeth ieuenctid TheSprout. Pan gyflogwyd dau greawdwr ifanc i lansio a chynnal y cyfrif, disgwyliwyd twf ac ymgysylltiad cyson. Ond, nid oeddem wedi disgwyl mynd yn firaol dros nos.
Llwyddodd un fideo o’n hymgyrch Pride Cymru gyrraedd 1 miliwn wedi gwylio mewn llai na 24 awr, gan ddod â gwelededd enfawr i’r cyfrif. Ond gyda hyn, daeth llif o sylw heb ei hidlo. Gyda miliynau o bobl yn gwylio, gadael sylwadau, ac yn rhannu, yn sydyn iawn dechreuodd yr ymgysylltiad positif gymysgu gydag agweddau negatif a chasineb.
Roedd rhaid ymateb yn gyflym ac archwilio sut i amddiffyn pobl ifanc a chadw’r sgwrs yn ddiogel wrth ddelio â chyflymder a phwysau mynd yn firaol.
Isod byddwn yn archwilio sut aethom ati i gael rheolaeth ar y sefyllfa, y pethau a roddwyd ar waith, a’r gwersi a ddysgwyd fel y gallem helpu sefydliadau eraill i baratoi ar gyfer mynd yn firaol ac ymateb iddo.
Ein dull
Cyflogwyd dau greawdwr cynnwys ifanc i greu a chynnal cyfrif TikTok ar gyfer TheSprout. Rhoddwyd y rhyddid iddynt arbrofi gyda thraciau sain boblogaidd a chreu cynnwys oedd yn rhoi gwybodaeth ddibynadwy mewn ffordd a fyddai’n apelio at eu cyfoedion.
Eu hymgyrch TikTok cyntaf oedd yr ymgyrch #MwyNaMis, a gynlluniwyd i ddangos nad dathliad penwythnos yn unig yw Pride, ond sgwrs sy’n parhau trwy’r flwyddyn.
I greu cynnwys yr ymgyrch, mynychodd tîm TheSprout Pride Cymru a chyfweld â 26 o bobl ifanc ar bynciau oedd yn bwysig iddyn nhw.
Gofynnom gwestiynau fel:
- “Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i bobl ifanc LHDTCRhA+?”
- “Pam fod Pride yn bwysig i ti?”
- “A gefaist ti unrhyw addysg rhyw LHDTCRhA + yn yr ysgol?”
- “Beth mae dy faner yn ei olygu i ti?”
Y canlyniad oedd cyfres o vox-pops byr, heb eu sgriptio, yn cofnodi meddyliau, pryderon a gobeithion pobl ifanc LHDTCRhA + yn eu geiriau eu hunain.
Yr effaith
Digwyddodd llwyddiant yr ymgyrch yn syth ac roedd yn bellgyrhaeddol. Aeth un fideo yn firaol, gyda 1 miliwn wedi gwylio mewn llai na 24 awr ac mae bellach wedi cael ei wylio 3.8 miliwn o weithiau.
Casglodd cynnwys ymgyrch TikTok TheSprout dros 4 miliwn o ymweliadau yn gyfan gwbl, gyda miloedd yn hoffi, rhannu a gadael sylwadau.
Sbardunodd y fideos dealltwriaeth a derbyniad. Dywedodd un person:
“Cariad pur i’r enaid – rwy’n caru’r diffiniad. Byddaf yn defnyddio hwn pan fydd fy nghydweithwyr hŷn yn gofyn beth yw Pan[rhywiol].”
Nid yn unig oedd yr ymgyrch yn llwyfan i leisiau ifanc LHDTCRhA +, fe sbardunodd sgyrsiau ymhlith cynulleidfaoedd na fyddai efallai wedi dod ar draws y safbwyntiau yma o’r blaen.
Yr heriau a wynebwyd
Gyda chyrhaeddiad firaol daeth craffu dwys a chynulleidfaoedd newydd na fyddai wedi gweld ein cynnwys fel arall. Roedd y sylwadau yn dod yn sydyn iawn, ac yn anffodus roedd yr ymatebion positif yn cael eu cymysgu gyda chynnwys cas.
Treuliodd ein tîm oriau yn cymedroli, dileu ac adrodd sylwadau niweidiol i gynnal gofod diogel. Er mwyn rheoli’r swm mawr oedd yn dod i mewn a diogelu ein cymuned, cyflwynwyd hidlwyr sylwadau, yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros yr hyn a oedd yn ymddangos ar ein cyfrif TikTok.
Er gwaethaf yr holl sylwadau negyddol, atgyfnerthodd y profiad hwn pam ei bod hi’n bwysig i elusennau fod yn bresennol yn y mannau digidol yma:
- I normaleiddio trafodaethau am rywioldeb, rhywedd a hunaniaeth
- I dorri ar draws casineb gyda negeseuon positif
- I greu mannau mwy diogel i bobl ifanc rannu eu profiadau
Prif bethau dysgwyd
- Cyfarfod pobl ifanc yn y gofodau y maent ynddynt: Mae TikTok yn cynnig cyrhaeddiad ac ymgysylltiad digynsail â phobl ifanc.
- Mae dilysrwydd yn ennill: Sbardunodd lleisiau go iawn sgwrs a chysylltiad go iawn.
- Byddwch yn barod: Mae offer cymedroli a chynlluniau diogelu yn hanfodol cyn cynllunio a phostio ymgyrch ar TikTok.
Sut mae pobl ifanc yn llywio bywyd ar-lein
Mae’r ymgyrch TikTok firaol yma â chysylltiad agos â’n Hadroddiad Darganfod Bywyd Ar-lein sy’n archwilio beth mae bod ar-lein yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl ifanc heddiw.
Tynnodd ein hymchwil sylw at y ffaith bod mannau ar-lein yn ganolog i sut mae pobl ifanc yn ffurfio hunaniaeth, yn meithrin perthnasau, ac yn archwilio diddordebau. Dywedodd bron hanner fod bod ar-lein yn gwneud iddynt deimlo’n “dda ar y cyfan”.
Ond datgelodd beryglon hefyd, gan gynnwys bod bron i hanner wedi gweld cynnwys niweidiol neu gynhyrfus a bod un o bob tri wedi profi sylwadau cas neu fwlio.
Drwy gysylltu’r mewnwelediadau yma ag ymgyrchoedd dan arweiniad pobl ifanc fel #MwyNaMis, gallwn roi llwyfan diogel i leisiau ieuenctid sy’n meithrin dealltwriaeth, a chreu mwy o fannau positif ar-lein.
Gweithiwch gyda ni
Mae ProMo yn helpu sefydliadau i gysylltu â phobl ifanc mewn ffyrdd sy’n bwysig. Rydym yn darparu hyfforddiant i’ch cefnogi neu gallwn gyd-greu ymgyrchoedd sy’n torri trwy’r sŵn, yn rhoi llwyfan i leisiau pobl ifanc, ac yn gwneud gwir effaith i chi.
I gychwyn y sgwrs, cysylltwch ag andrew@promo.cymru