✕

Helpu’r trydydd sector yng Nghymru i ddysgu a gwneud dewisiadau am AI

star

Cleient

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

star

Sector

Trydydd Sector

star

Partneriaid

Cyngor Ffoaduriaid Cymru
Mind yng Ngwent
Stori
CCGC

star

Gwasanaethau

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad
Cymorth Digidol
Cynllunio Gwasanaeth

Rhaglen pum mlynedd yw Sgil AI gyda’r bwriad o helpu sefydliadau trydydd sector i ddysgu a gwneud dewisiadau am AI.

Fel rhan o’r rhaglen yma rydym yn hyfforddi sefydliadau ledled Cymru, yn creu swyddi â thâl i bobl ifanc i edrych ar ddatrys heriau go iawn. Byddem hefyd yn talu sefydliadau i gynllunio a phrofi defnydd o AI ynghyd â’r cymunedau y maent yn gwasanaethu. Bydd popeth cynhyrchir yn cael ei gyhoeddi’n agored, yng Nghymraeg a Saesneg.

Ariannir Sgil AI trwy raglen ‘Cefnogi Syniadau Gwych’ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd ProMo Cymru yn derbyn £499,998 dros bum mlynedd.

Pam bod y prosiect yma’n bodoli

Yn 2025-26, roedd tua £5 miliwn o gyllid yn agored i gyrff cyhoeddus yng Nghymru at ddefnydd AI a thrawsnewid digidol. Nid oedd ceiniog o’r cyllid yma yn agored i’r trydydd sector.

Yn y cyfamser, mae’r sector y parhau i wneud defnydd o AI beth bynnag. Yn ôl Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau 2025, roedd 76% o elusennau yn defnyddio AI, gyda 60% yn poeni pa effaith fydd hyn yn ei gael ar ansawdd gwasanaethau a phreifatrwydd data.

Siaradom â sawl sefydliad, ac roedd teimlad ymysg y rheiny bod llawer ohonynt yn cael eu gadael ar ôl. Mynegodd un yn glir: “Bydd AI yn cael ei ddefnyddio ymhob sector, ac os nad yw’r trydydd sector yn dysgu sut i’w ddefnyddio, yna byddem yn cael ein gadael ar ôl.” Dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr hefyd eu bod yn defnyddio AI eu hunain, ond nad oedd eu sefydliad yn cefnogi hynny.

Mae yna debygrwydd clir yma i’r brys 10 mlynedd yn ôl i ddigideiddio gwasanaethau, gyda rhai cymunedau ar yr adeg yn cael eu gadael mewn sefyllfa waeth nag yr oeddent yn wreiddiol. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn rhan o lunio sut y gall gwasanaethau ddefnyddio AI.

Beth mae SGIL AI yn ei wneud

Mae tair elfen gysylltiedig i’r prosiect.

1. Hyfforddi yn ôl yr angen

Nid yw pawb angen yr un peth. Mae gennych chi weithwyr rheng flaen sy’n awyddus i gwtogi ar waith gweinyddol, prif weinidog sy’n ymateb i alwad am dystiolaeth, ac arweinydd gweithredol sydd eisoes yn defnyddio AI ac yn ceisio rhoi hwn ar waith yn ddiogel ar draws y sefydliad, pob un yn chwilio am wahanol fath o gefnogaeth.

Seliwyd ein hyfforddiant ar Fodel Aeddfedrwydd AI pedwar cam ProMo Cymru – Ymwybodol, Arbrofi, Hyderus, a Chreadigol.

Gall sefydliadau ddarganfod y lefel sydd yn gweddu orau iddyn nhw a symud i fyny dros gyfnod. Mae sesiynau amrywiol o offer ymarferol, i strategaeth, i weithredu offer AI. Mae’n cynnwys gweithdai ymarferol lle gall grwpiau weithio â’i gilydd ac, o fewn ychydig oriau, adeiladu meddalwedd sy’n gweithio. Dros y pum mlynedd byddem yn hyfforddi 625 o sefydliadau.

2. Pobl ifanc yn cynllunio’r camau nesaf

Dros y pum mlynedd, cyflogir deuddeg o bobl ifanc mewn rolau Cynllunwyr Gwasanaeth dan Hyfforddiant, nifer bach ar y tro, yn recriwtio fesul dipyn. Maent yn ymuno’r tîm fel cyd-weithwyr, nid fel ymgynghorai nac aelodau grŵp ffocws. Bydd eu llais nhw’r un mor gryf wrth ddweud beth sy’n cael ei adeiladu, a byddant yn cael yr un amlygiad i’r cyfyngiadau wrth ei adeiladu. Gyda’n gilydd byddem yn adnabod y problemau sydd yn codi, gan gynnwys y problemau mae AI ei hun yn ei greu, ac yn cynllunio offer, dulliau a meddalwedd i’w datrys.

Mae rheswm pam bod hyn yn digwydd nawr. Mae tystiolaeth gynnar yn dangos bod AI eisoes yn ail-lunio, er gwaeth, cyflogaeth lefel mynediad. Talu pobl ifanc i’n helpu yw’r peth iawn i wneud a dyma’r ffordd orau i ddysgu sut i gefnogi mwy o bobl ifanc yn y dyfodol.

3. Carfan cyd-gynllunio â thâl

Nid yw hyfforddiant yn unig yn dangos i ni os yw defnyddio AI yn syniad da. Mae angen y bobl y mae’r gwasanaeth yn darparu ar eu cyfer.

Mae’r elfen carfan yn tynnu sefydliadau’r trydydd sector ynghyd â’u cymunedau i gynllunio a phrofi defnydd ymarferol o AI, ac i weld os ydynt yn effeithiol wrth wynebu barn y bobl yr effeithir arnynt. Mae sefydliadau yn cael eu talu am yr amser sy’n cael ei roi i waith ystyrlon; ni ddylid gofyn i dimau dan bwysau i wneud hyn am ddim. Os yw sefydliad eisiau cymryd rhan, mae’n rhaid dangos bod y gymuned yn cael ei gynnwys o ddifrif, nid ymgynghori wedyn.

Mae pedwar partner wedi’u cadarnhau ar gyfer y garfan gyntaf, wedi eu dewis am eu bod yn cyrraedd pobl sydd yn aml yn cael eu heithrio o drawsnewid digidol: Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Mind yng Ngwent, Stori, a CCGC (Cymorth Cymunedol Gwirfoddol Conwy). Rhyngddynt maent yn gweithio â ffoaduriaid a phobl yn chwilio am loches, goroeswyr camdriniaeth ddomestig, pobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl, a grwpiau gwirfoddol bach. Bydd mwy o sefydliadau yn ymuno dros oes y prosiect.

Disgwylir tua 10 sefydliad yn y garfan.

Mae popeth a wnawn yn agored

Mae’r holl ganllawiau, methodoleg, offer a meddalwedd a gynhyrchir gan Sgil AI yn cael eu cyhoeddi yn agored ac yn ddwyieithog, yng Nghymraeg a Saesneg, yn cael eu hysgrifennu yn y ddwy iaith o’r cychwyn cyntaf yn hytrach nag meddwl am y cyfieithiad wedyn.

Dylai sefydliad yn Wrecsam fedru codi rhywbeth a gafodd ei brofi yng Nghasnewydd heb orfod ailadrodd y gwaith, a bwriedir gallu gwneud hyn ar ôl i’r cyllid orffen hefyd.

Yr hyn disgwylir bydd yn newid:

  • Mae gan sefydliadau trydydd sector Cymru’r hyder, sgiliau a’r wybodaeth i ddefnyddio AI yn foesegol ac yn effeithiol gyda’r cymunedau y maent yn gwasanaethu.
  • Mae gan gymunedau, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hanwybyddu o drawsnewid digidol yn y gorffennol, y llais i ddweud sut mae AI yn cael ei ddefnyddio yn y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.
  • Mae pobl ifanc mewn swyddi Cynllunwyr Gwasanaeth dan Hyfforddiant yn cael profiad ymarferol mewn maes sy’n datblygu, ac rydym yn dangos yn ehangach sut olwg sydd ar gamau cynnar da mewn gyrfa yn y maes cynllunio ac AI.
  • Offer, canllawiau a methodoleg agored yn bodoli ac yn cael eu rhannu fel bod sefydliadau ledled Cymru yn gallu defnyddio AI yn foesegol heb orfod cychwyn o’r cychwyn.

Sut y byddem yn gwybod

Bydd Sgil AI yn cael ei werthuso’n annibynnol ar y pwynt hanner ffordd ac ar y diwedd. Ynghyd â hynny, byddem yn cynnal adolygiadau dysgu bob chwe mis ac adroddiadau blynyddol, gan ddefnyddio holiaduron gwaelodlin, y Model Aeddfedrwydd AI fel offeryn diagnostig, naratif Newid Mwyaf Arwyddocaol ac astudiaethau achos. Byddem yn cyhoeddi’r hyn rydym wedi dysgu, gan gynnwys y rhannu aflwyddiannus.

Ymunwch â ni ar y daith hon

Os ydych chi’n gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru ac yn awyddus i dderbyn hyfforddiant, neu os oes gan eich sefydliad ddiddordeb yn ymuno â’r garfan, yna cysylltwch. Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs.

Ariennir Sgil AI gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Am wybodaeth bellach, e-bostiwch andrew@promo.cymru


Charity number: 1094652
Company number: 01816889