✕

Helpu i symleiddio ysgrifennu ar y cyd i’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus

star

Cleient

Prosiect mewnol

star

Sector

Trydydd Sector
Sector Cyhoeddus

star

Partneriaid

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

star

Gwasanaethau

Cymorth Digidol

Yr Her

Mae angen i sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus weithio ar ddogfennau gyda’i gilydd yn rheolaidd – sesiynau cwmpasu, cynigion ariannu, cynlluniau prosiect, nodiadau cyfarfodydd. Ac eto mae llawer yn canfod eu hunain yn methu rhannu pethau neu yn gaeth mewn cadwyni e-bost diddiwedd, gyda sawl fersiwn o’r un ddogfen yn bownsio o flwch i flwch. Yn aml, mae adnoddau ysgrifennu ar y cyd masnachol yn gofyn am gyfrif, mewngofnodi, tanysgrifio, neu wybodaeth dechnegol, sy’n creu rhwystrau i sefydliadau llai. Roedden ni’n awyddus i ddarganfod ffordd haws.

Ein dull

Cafodd ProMoPapur (llwyfan ffynhonnell agored Etherpad ein hunain) ei greu fel adnodd ysgrifennu ar y cyd am ddim ar gyfer cydweithio traws-sector. Mae’r enw’n cyfuno enw ein sefydliad a ‘papur’.

Mae ProMoPapur yn caniatáu i nifer o bobl weithio ar ddogfen ar yr un pryd, gyda newidiadau’n ymddangos ar unwaith. Mae lliw yn cael ei neilltuo i bob cyfrannwr, fel ei bod yn haws gweld pwy sydd yn gyfrifol am ba olygiadau. Mae’r rhyngwyneb glân, heb unrhyw beth yn tynnu sylw, yn cadw’r ffocws ar gynnwys yn hytrach na nodweddion cymhleth.

Nid oes angen creu cyfrif na gosod meddalwedd. Mae’n syml, mae defnyddwyr yn rhannu dolen ac yn dechrau gweithio gyda’i gilydd. Ar ôl gorffen, gellir allforio dogfennau mewn sawl fformat amrywiol gan gynnwys PDF, Word, HTML, neu destun plaen.

Sut mae’n gweithio

Mae creu dogfen newydd yn syml. Cliciwch ar y botwm ‘New Pad’ a bydd yn agor dogfen cydweithio newydd. I wahodd pobl eraill, rhannwch yr URL o far cyfeiriad eich porwr drwy e-bost neu neges.

Mae’r panel sgwrsio integredig yn galluogi cyfranwyr i drafod y ddogfen heb adael ProMoPapur. Mae pob newid yn cael ei gadw’n awtomatig, ac mae’r nodwedd ‘Time Slider’ yn caniatáu i ddefnyddwyr weld sut y datblygodd y ddogfen dros amser neu adfer cynnwys os oes angen.

Effaith

Defnyddiodd Scott Tandy, Swyddog Cynhwysiant Digidol Cymdeithas Tai Newydd, ProMoPapur i arwain cyfarfod cwmpasu gyda staff o ddeg sefydliad partner gwahanol yng Nghymru.

“Cyn gynted ag y rhannais y ddolen i’r nodiadur byw, dechreuodd y grŵp rannu manylion cysylltiadau a gwybodaeth bwysig am bobl y gellid troi atynt, ychwanegu syniadau cynnwys at bynciau’r cwrs y cytunwyd arnynt, a nodi pynciau newydd nad oeddem wedi’u hystyried o’r blaen hefyd. Synnais gan ba mor dda oedd o.”

Rhowch gynnig ar ProMoPapur

Mae ProMoPapur ar gael nawr ar www.promopapur.cymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed sut rydych chi’n ei ddefnyddio ac yn croesawu adborth ar sut y gallem ddatblygu’r adnodd ymhellach.

Gwireddwyd ProMoPapur diolch i gyllid hael Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i greu adnoddau digidol sy’n helpu cymunedau i gydweithio, cysylltu a chreu newid positif ledled Cymru.

Os oes gennych her ddigidol ac eisiau creu datrysiadau moesegol, cysylltwch ag andrew@promo.cymru


Charity number: 1094652
Company number: 01816889