Croeso, Niamh!
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Niamh Bailey i’r tîm fel Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau.
Mae Niamh yn raddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg a bu’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd tan 2026. Cafodd brofiadau a chyfleodd anhygoel tra yn y brifysgol, gan gynnwys blwyddyn dramor yn 2024-25 a oedd yn un o’i phrofiadau mwyaf gwobrwyol.
Yn ogystal â’i astudiaethau, mae Niamh wedi bod yn aelod actif o’r sîn gerddoriaeth a chelfyddydol yng Nghaerdydd. Mae’n DJ rheolaidd yn jams graffiti a brwydrau brêk, yn ogystal â pherfformio cerddoriaeth ei hun mewn llefydd lleol. Mae wedi llwyddo i drosglwyddo’i sgiliau creadigol i hwyluso sesiynau ieuenctid gan gynnwys cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw, sesiynau gwaith ieuenctid wythnosol, a chreu cylchgrawn cerddoriaeth a chelfyddydau sy’n cynnwys cyfraniadau gan bobl ifanc.



Mae Niamh yn cefnogi’r tîm ar draws ystod eang o brosiectau, gan ddefnyddio ei chefndir creadigol i gynorthwyo gyda chyfathrebu, cynnwys a chyflawni prosiectau.
Mae cefndir amrywiol Niamh yn chwarae rôl allweddol ar draws cymysg o wahanol brosiectau.
“Nawr fy mod i yn ProMo, mae’r holl brofiadau hyn, sy’n ymddangos yn gwbl ar hap, yn cael eu rhoi ar waith, ac rydw i’n gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau yn barod,” meddai Niamh.
“Mae wedi bod yn anhygoel gweld y gwaith sydd y tu ôl i’r prosiectau hyn, a’r ffordd mae’r timau yn cydlynu ac yn gweithio’n effeithlon. Dwi’n methu aros gweld beth sydd i ddod.”
Croeso i’r tîm Niamh!
Bethan Gallivan
19 Tachwedd 2026
Newyddion
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Croeso, Bethan!
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Bethan Gallivan i’r tîm fel ein Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Cymraeg newydd! Mae gan Bethan radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, ac yn dod â thair blynedd o brofiad o’i swydd flaenorol mewn elusen sy’n ffocysu ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon, bu’n […]
Cynllunio Gwasanaeth
O Went i Helsinki: Cyfnewidfa Iechyd Meddwl
Ym mis Medi 2026, teithiodd naw o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent i Helsinki am wythnos o ddysgu ar y cyd gyda’r sefydliad ieuenctid Ffinnaidd Yeesi, wedi’u cyllido gan Taith. Wedi’i ysgrifennu gan Lexy, Cynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed, Meddwl Ymlaen Gwent Cefndir Meddwl Ymlaen Gwent Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn gydweithrediad 5 mlynedd […]
Newyddion
Enillydd Cyntaf Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield
Mae Cyfarwyddwr Datblygiad ProMo Cymru, Marco Gil-Cervantes, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2026. Derbyniodd Marco’r wobr mewn seremoni yn yr Hilton, Caerdydd, ar 15fed Hydref 2026. Gwobr newydd gydag ystyr arbennig Mae’r wobr yn newydd eleni. Fe’i henwir er cof am Graham Benfield, a oedd yn Brif Weithredwr CGGC […]