✕
Bethan against a black background wearing a brown plaid shirt, smiling.

Bethan Gallivan

Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Cymraeg

Magwyd Bethan yng Nghaerdydd ac maent yn siaradwr Cymraeg rhugl. Gyda gradd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, a chefndir yn y maes cyfathrebu  trydydd sector, mae ganddynt angerdd dros ddefnyddio dulliau digidol i addysgu a grymuso pobl ifanc.

Cyn ymuno â ProMo Cymru, gweithiodd Bethan i elusen oedd yn canolbwyntio ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yno, arweiniodd y gwaith o sefydlu Bwrdd Pobl Ifanc a sicrhau bod pobl ifanc â phrofiad o ddigartrefedd wrth wraidd y sefydliad. Yn ogystal, cyflwynodd a chynhyrchodd y podlediad ADREF.

Mae gan Bethan brofiad maith o gydgynllunio cynnwys gyda phobl ifanc, ac maent yn dod â ffocws cryf ar negeseuon cynhwysol sy’n cael eu harwain gan lais ieuenctid i’w rôl.

Os ydych chi’n awyddus i greu cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel, byddai Bethan wrth ei bodd yn cael sgwrs.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889