Oasis – Animeiddiad Iechyd Meddwl Dreamers
Creu animeiddiad fideo mewn sawl iaith i helpu ymgeiswyr lloches ifanc i ofalu am eu hiechyd meddwl a lles
Cleient
Oasis
Sector
Trydydd Sector
Partneriaid
Oasis
Gwasanaethau
– Cyd-gynllunio
– Gweithdai sgiliau animeiddio
– Cynhyrchu animeiddiad
Mae Oasis yn elusen sydd yn cefnogi ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu cymunedau yng Nghymru. Trwy’r Prosiect Dreamers, mae Oasis yn gweithio gydag ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid 16 i 25 oed i wella eu hiechyd meddwl a lles. Mae’r bobl ifanc yn rhan o gynllunio’r prosiect o’r cychwyn i’r diwedd.
Beth oedd y broblem?
Cafodd grŵp o bobl ifanc syniad: roeddent yn awyddus i greu animeiddiad fideo hygyrch, oedd yn ddiwylliannol briodol, oedd yn cynnig cyngor am ofalu am eu hiechyd meddwl a lles i ymchwilwyr lloches oedd newydd gyrraedd. Cynhaliwyd sawl gweithdy i ddatblygu’r syniad, a gofynnwyd i ProMo Cymru wireddu’r cwbl.
Gall fod yn anodd cael cynnwys iechyd meddwl amlieithog yn iawn. Yn aml, mae cyfieithu uniongyrchol yn colli’r cyd-destun diwylliannol, gall y tôn deimlo’n glinigol pan mae angen iddo deimlo’n gynnes, ac mae cynnwys sydd wedi’i greu ar gyfer pobl ifanc yn aml yn taro’n wahanol i gynnwys sy’n cael ei greu efo nhw. Roedd Oasis a phobl ifanc Dreamers yn awyddus i greu adnodd wedi’i gynllunio gyda’u cynulleidfa o’r sgwrs gychwynnol.
Ein dull
Mae gan ProMo dros 25 mlynedd o brofiad yn cyd-gynllunio prosiectau gwybodaeth ieuenctid, gyda sgiliau penodol mewn creu cynnwys amlieithog. Rydym yn gweithio gyda Oasis a phobl ifanc Dreamers ar y prosiect yma i gyflwyno animeiddiad fydd yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau’r ffoaduriaid a’r ymgeiswyr lloches ifanc.
Mae ein dull wedi’i selio ar ysgrifennu triawd, sef methodoleg sydd yn cyfuno tri safbwynt o’r cychwyn, yn hytrach nag cyfieithu cynnwys ar y diwedd.
Ynghyd â dau weithdy, byddem yn cynnal sesiwn hyfforddiant sgiliau animeiddio gyda’r bobl ifanc, gan roi sgiliau trosglwyddadwy iddynt mewn adrodd stori, creu bwrdd stori, datblygu cymeriadau, a hanfodion animeiddio. Bydd y trosleisiau yn cael eu recordio yn ein stiwdio ym Mae Caerdydd, gyda’r bobl ifanc yn adrodd yn iaith eu cymuned nhw, a byddem yn defnyddio proses adborth strwythuredig trwy’r cwbl fel bod Oasis a’r bobl ifanc yn gallu llunio’r gwaith wrth iddo ddatblygu.
Adeiladu ar ein gwaith gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Nid dyma’r tro cyntaf i ni ddatblygu cynnwys amlieithog i bobl ifanc o gefndiroedd ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches. Yn y prosiect gyda Chanolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, TGP Cymru a Phrifysgol Abertawe, cynlluniwyd a chyfieithwyd 56 o fideos i 14 iaith i gyd-fynd â chanllawiau i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru, yn trafod hawliau cyfreithiol, y broses lloches, cael gofal, a beth i’w ddisgwyl wrth gyrraedd. Recordiwyd y trosleisiau yn ein swyddfa gan ymgeiswyr lloches ifanc sydd yn byw yng Nghymru, ac roedd ein dull yn golygu bod gwybodaeth gyfreithiol cymhleth yn cyrraedd nid yn unig wedi’i chyfieithu’n gywir ond yn briodol o ran emosiwn a diwylliant.
Dysgodd y prosiect lawer i ni am yr ystyriaethau perthynol, ieithyddol a diwylliannol sydd ei angen ar gyfer y math yma o waith. Mae’r animeiddiad Dreamers yn gyfle i roi’r dysgu yma ar waith mewn sgwrs wahanol ond yr un mor bwysig am iechyd meddwl.
Canlyniadau
Bydd y prosiect yn creu un fideo wedi’i animeiddio gyda lleisiau pobl ifanc y prosiect Dreamers yn iaith eu cymuned nhw, a bydd isdeitlau yn cael eu cynnwys hefyd.
Bwriedir i’r animeiddiad fod yn barod erbyn mis Ionawr 2027. O’r pwynt yma, bydd yr animeiddiad yn cael ei ychwanegu i’r Prosiect Partneriaeth Dreamers ehangach fel adnodd y gall Oasis ei ddefnyddio gyda’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.
Byddem yn rhannu mwy wrth i’r prosiect ddatblygu.
Cysylltwch â daniele@promo.cymru os oes gennych chi ddiddordeb yn creu cyfryngau amlieithog neu wedi’i gyd-gynllunio â’ch cymuned.