✕

Niamh Bailey

Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Yn raddedig o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, symudodd Niamh o gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid i’w rhedeg. Mae ganddi gefndir creadigol cryf fel cerddor, awdur ac artist, ynghyd â phrofiad ymarferol o hwyluso prosiectau ieuenctid.

Cyn ymuno â ProMo Cymru, bu Niamh yn curadu, cynhyrchu a dosbarthu cylchgrawn celf a cherddoriaeth a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan bobl ifanc. Trefnodd raglenni perfformio byw hefyd, a chreu deunyddiau hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth leol. Yn ystod ei gradd, treuliodd flwyddyn yn astudio yn Montpellier, gan ddatblygu sgiliau Ffrangeg o safon uchel a sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol.

Yn ei rôl, mae Niamh yn cefnogi’r tîm ar draws ystod eang o brosiectau, gan ddefnyddio ei chefndir creadigol i gynorthwyo gyda chyfathrebu, cynnwys a chyflawni prosiectau.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889