✕

Symud y tu hwnt i ystadegau presenoldeb i ddeall y rhwystrau a’r cymhellion sy’n llunio profiad ysgol pobl ifanc.

star

Cleient

Cyngor Sir Caerfyrddin

star

Sector

Sector Cyhoeddus

star

Partneriaid

Lab Arweinyddiaeth Gwaith Ieuenctid (Dr Emma Chivers), ProMo Cymru

star

Gwasanaethau

Cynllunio Gwasanaethau

Beth oedd y broblem?

Yn dilyn arolygiad lleol gan Estyn, amlygwyd gwella presenoldeb yn yr ysgol fel blaenoriaeth allweddol i Gyngor Sir Caerfyrddin. Er bod niferoedd presenoldeb yn dangos faint o ddisgyblion sy’n colli’r ysgol, nid ydynt yn egluro pam. Mae gwaith llais y disgybl traddodiadol fel arfer yn dal y rhai sy’n mynychu’n rheolaidd, gan golli’r bobl ifanc sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i fynychu. Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin angen dealltwriaeth ddyfnach, berthynol o ymddieithrio i lywio eu strategaeth presenoldeb lleol.

Ein dull

Yn unol â blaenoriaeth “gwrando i wella” Addysg Sir Gâr, a chan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar hawliau sydd â sylfaen yn Erthygl 12 y CCUHP a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru, bu ProMo Cymru a’r Labordy Arweinyddiaeth Gwaith Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin i roi llwyfan i dros 200 o bobl ifanc 11–16 oed:

  • 137 o ymatebion arolwg yn mapio rhwystrau a chymhellion allweddol
  • 69 o gyfranogwyr grwpiau ffocws yn rhannu profiadau byw o fywyd ysgol.
  • 5 cyfweliad llinell amser bywyd yn dilyn teithiau addysgol unigol
  • Adolygiad tystiolaeth yn cysylltu profiadau lleol ag ymchwil ehangach

Datblygom y fframwaith ‘Drwy’r Drysau’ i fapio profiadau pobl ifanc gyda ‘Drysau Agored’ (perthnasoedd cefnogol, mannau diogel, hyblygrwydd) a ‘Drysau Caeedig’ (gorlethu synhwyraidd, rheolau llym, mesurau cosbol, pryder).

Canfyddiadau allweddol

  • Iechyd meddwl a blinder: Nododd 59% straen/iechyd meddwl fel prif rwystr i’r ysgol, a 44% yn nodi blinder llwyr fel rheswm arall
  • Mae oedolion dibynadwy yn bwysig: Dywedodd 60% fod cael o leiaf un oedolyn cefnogol yn helpu gyda phresenoldeb
  • Rheolau ac amgylchedd: Toiledau wedi’u cloi, rheolau gwisg anhyblyg, coridorau gorlawn, ac ystafelloedd ynysu yn cynyddu pryder ac yn troi pobl ifanc i ffwrdd
  • Pryder ail-ymgysylltu: Roedd 23% yn teimlo eu bod wedi colli gormod i fedru dal i fyny ar ôl cyfnod i ffwrdd o’r ysgol, gan ofni methiant academaidd a barn gymdeithasol

Datrysiadau ar gyfer newid

Rhannodd pobl ifanc gamau syml, ymarferol fel ei bod yn haws i fynychu’r ysgol:

  1. Staff sy’n gwrando: Newid i gyfathrebu perthynol, parchus gyda llai o weiddi
  2. Cymorth lles: Creu mannau tawel a darparu cymorth gwell mewn cyfnodau gorlethol
  3. Dysgu bywyd go iawn: Cyflwyno gwersi ymarferol, ystyrlon sy’n gysylltiedig â bywyd y tu allan i’r ysgol
  4. Parch unigol: Trin disgyblion fel unigolion, nid rhifau, ac ymgynghori â nhw cyn creu rheolau newydd
  5. Polisïau hyblyg: Addasu rheolau gwisg ysgol, agor mynediad i doiledau, a darparu profiad ail-gychwyn heb farnu ar ôl cyfnod o absenoldeb

Lansio’r arddangosfa a’r adroddiad

I lansio’r adroddiad a chyflwyno ein canfyddiadau, cynhaliwyd arddangosfa ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol, arweinwyr ysgolion, a phartneriaid lleol. Ochr yn ochr ag inffograffeg a gynhyrchwyd gennym, roedd y bobl ifanc wedi creu amrywiaeth o ddarnau gweledol a chreadigol i adrodd eu stori nhw a rhoi bywyd i’r adroddiad, gan sicrhau bod eu tystiolaeth uniongyrchol yn flaenllaw ac yn ganolog wrth yrru gwir newid.

Canlyniadau

Gan ystyried safbwyntiau’r bobl ifanc, mae’r adroddiad yn nodi wyth argymhelliad craidd ar gyfer arweinwyr lleol, gan alw am ddiwylliannau ysgol berthynol gryfach, cefnogaeth lles a throsglwyddiad cynnar, polisïau ymddygiad mwy hyblyg, a chyfranogiad parhaus ieuenctid. Mae’r sylfaen yma o dystiolaeth a rennir bellach yn llywio strategaeth Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Gaerfyrddin yn uniongyrchol, gan gefnogi gwelliannau ar draws cynhwysiant ysgolion a Chynllun Strategol Gwaith Ieuenctid pum mlynedd y Cyngor.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889