Hygyrchedd
Mae ProMo Cymru yn ceisio gwneud y wefan hon yn hygyrch ac yn hawdd i bawb ei defnyddio pa bynnag borwr sy’n cael ei ddefnyddio, yn ddifater i’ch lefel gallu neu os oes gennych chi anabledd.
Wrth gofleidio technolegau newydd, rydym hefyd yn bwriadu:
- sicrhau bod defnyddwyr gydag anabledd yn gallu cael mynediad gyda’u meddalwedd cynorthwyol neu osodiadau cyfrifiadur.
- sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at y lleoliad cywir am wybodaeth ar sut i addasu’u cyfrifiaduron.
Mae cynllun y safle yn rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg ac mae’n gydnaws â meddalwedd poblogaidd i ddarllen sgrin.
Caiff hygyrchedd gwefan ProMo Cymru ei lywio gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) ac rydym yn gweithio i fodloni’r safon AA lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Mae cynnal safle hygyrch yn broses barhaus ac rydym yn gweithio drwy’r amser i gynnig profiad cyfeillgar i’r defnyddiwr. Lle na ellir bodloni’r safonau uchaf o hygyrchedd bydd ProMo Cymru yn anelu at ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch pan wneir cais am hynny.
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda’r wefan neu gydag unrhyw sylwadau, e-bostiwch ar info@promo.cymru
Newid maint testun
Dyluniwyd gwefan ProMo Cymru fel y gellir newid maint y testun a gosodiadau arddangos eraill yng ngosodiadau porwr safonol. Mae’r dudalen yma o’r W3C yn dangos sut i ddefnyddio rhai o’r gosodiadau arddangos porwr yma (dolen allanol).
Darllenydd a Gwyliwr Sgrin
Mae angen y meddalwedd cywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan yma. Mae’r dudalen yma yn cynnig dolenni i ddarllenwyr a gwylwyr sydd ar gael am ddim. Nodwch fod y dolenni yma yn cael eu cynnig er eich cyfleuster chi. Nid yw ProMo Cymru yn cefnogi unrhyw un o’r cynnyrch yma. Mae’r dolenni i wefannau allanol.
Mae darllenwyr a gwylwyr yn caniatáu i chi ddarllen mathau o ffeiliau gyda rhaglenni masnachol heb gael y rhaglen wedi’i osod ar eich cyfrifiadur. Gall darllenwyr a gwylwyr fod hyd at 12MB o faint ond dim ond unwaith bydd angen lawrlwytho.
- Darllenydd Word i Linux (dolen allanol)
- Darllenydd Acrobat Adobe (dolen allanol)
- Chwaraewr Flash Adobe (dolen allanol)
- Gwyliwr Microsoft Word (dolen allanol)
- Gwyliwr Microsoft Excel (dolen allanol)
- Gwyliwr Microsoft PowerPoint 2007 (dolen allanol)
Os ydych chi’n defnyddio darllenydd sgrin neu dechnoleg gynorthwyol debyg i ddarllen y wefan, efallai byddech yn dymuno defnyddio teclyn cyfnewid ar-lein Adobe i greu fersiynau HTML o ddogfennau PDF. Gall cael mynediad iddo ar y cyfeiriad yma:
http://www.adobe.com/products/acrobat/access_onlinetools.html (external link)