Daniele Mele
Dylunydd a Chynhyrchydd Cyfryngau
Mae gan Daniele dros wyth mlynedd o brofiad mewn golygu fideo, animeiddio a dylunio graffeg.
Mae Daniele yn credu’n gryf mewn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol. Mae’n aml yn cynnal hyfforddiant a gweithdai gyda phobl ifanc, yn arwain eu camau cyntaf i mewn i’r diwydiant creadigol, yn eu cefnogi yn y broses o greu animeiddiadau fideo a dylunio cynnwys graffeg.
Mae Daniele wedi arwain ar ymgyrchoedd brandio sylweddol yn ymwneud ag animeiddio. Mae wedi creu amrywiaeth o asedau wedi eu hanimeiddio ar gyfer Meic, llinell gymorth plant a phobl ifanc cenedlaethol Cymru. Mae’r asedau wedi cael eu defnyddio mewn sawl ymgyrch Meic, a gwelwyd tyfiant sylweddol ar eu sianel Instagram o ganlyn hynny.