Halyna Soltys
Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys
Mae Halyna wedi bod yn Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys yn ProMo Cymru ers dros bedair blynedd, gyda phrofiad helaeth mewn cyfryngau digidol, marchnata a chyfathrebu. Mae hi’n arwain ar gynllunio, creu a chyhoeddi cynnwys ar draws ystod eang o brosiectau, gan gynnwys ymchwilio cynnwys, ysgrifennu a golygu ar gyfer y prosiect llinell gymorth Meic.
Gyda diddordeb cryf mewn gwaith ieuenctid a gwybodaeth ieuenctid, mae Halyna yn cymhwyso egwyddorion gwaith ieuenctid i sicrhau bod yr holl gynnwys yn berthnasol, yn ddeniadol ac wedi’i deilwra ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc. Mae ei dull wedi’i seilio ar gyd-gynhyrchu a chynllunio gwasanaeth, ac mae wedi defnyddio’r rhain yn llwyddiannus mewn prosiectau fel Ein Meddyliau Ein Dyfodol, TheSprout, a Meddwl Ymlaen Gwent.
Yn angerddol am harneisio technoleg ddigidol ar gyfer newid positif, mae gan Halyna ddiddordeb yn y rôl sydd gan AI a chyfryngau cymdeithasol, yn enwedig trwy ei gwaith ar brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector.