John McKernan

Dirprwy Prif Weithredwr

Mae John yn Ddirprwy Brif Weithredwr ac yn rheoli cyllid ochr elusennol ac ochr masnachol y cwmni. Mae gan John ddegawdau o brofiad cyllidol yn gweithio yn y maes ymarfer cyfrifeg, ac yn y diwydiant hysbysebu.

Yn ei amser gyda ProMo-Cymru mae John wedi rheoli sefydliad y llinell gymorth Meic, trosglwyddo asedau’r Loteri Fawr ac adnewyddu Institiwt Glynebwy ac, yn fwy diweddar, cyllido, prynu, ac adnewyddu swyddfeydd newydd y sefydliad yn 17 Stryd Gorllewin Bute.