
Marley Mussington
Intern Busnes
Graddiodd Marley gyda gradd Rheoli Digwyddiadau yn 2024. Mae ganddi brofiad o gynllunio a chyflawni nifer o ddigwyddiadau, o uwchgynadleddau rhyngwladol i wyliau cerddoriaeth, ac mae wedi creu digwyddiad elusennol ei hun yn cefnogi Venture Arts.
Yn ProMo Cymru, mae Marley yn gweithio ar draws yr adran Cyllid ac Adnoddau Dynol, gan ddatblygu ei galluoedd dadansoddol a’i dealltwriaeth o weithrediadau busnes.
Mae’n angerddol am sut mae’r meysydd yma yn creu timau effeithlon, sydd, yn ei barn hi, yn hanfodol wrth reoli digwyddiadau.