Megan Lewis

Swyddog Cyfathrebu a'r Cyfryngau

Yn 2022 llwyddodd Megan i gwblhau gradd meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang. Mae ganddi brofiad mewn ymgyrchoedd digidol a chysylltiadau cyhoeddus strategol, mewn rheoli cyfryngau cymdeithasol, ymchwil cyfathrebu trydydd sector manwl, a chynhyrchu cynnwys graffeg, ffotograffig ac ysgrifenedig ar gyfer prosiectau amrywiol.

Mae prif rôl Megan yn ProMo-Cymru yn ymwneud â chynllunio, creu, cynhyrchu, a rhoi cyhoeddusrwydd i amrywiaeth o gynnwys i gefnogi gweithgareddau’r EVI. Mae hefyd yn cefnogi cyfathrebu ehangach ProMo.

Mae ganddi angerdd am gefnogi a llywio datblygiad cymunedol a gweithio yng nghyfathrebu’r trydydd sector.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn cynllunio a gwella eich cyfryngau cymdeithasol, yna mae ProMo Cymru yn hapus i helpu.