Sarah Namann

Swyddog Prosiectau Digidol

Mae Sarah yn brofiadol mewn datblygiad diwylliannol a chymdeithasol a dysgu gydol oes. Mae ganddi flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y trydydd sector, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu digidol.

Mae’n angerddol am sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac yn cynnal hyfforddiant Sgiliau Radio i bobl ifanc fel rhan o Radio Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’n cymryd rhan mewn sawl prosiect arall sydd yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â phobl ifanc hefyd, fel Meddwl Ymlaen Gwent a gwerthuso’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+.

Os ydych yn awyddus i helpu pobl ifanc i gael llais, bydd Sarah yn hapus i sgwrsio â chi.