Sefa Ozalp
Pwyllgor Rheoli
Mae Sefa Ozalp yn arweinydd technoleg gyda dros ddegawd o brofiad ar draws y llywodraeth, y byd academaidd, y sector dielw, y sector cymdeithasol, a thechnoleg ariannol. Mae’n arbenigo mewn darparu technolegau gwyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI) sydd yn cael effaith fyd-eang ac yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau blaenllaw yn eu meysydd penodol. Mae ganddo arbenigedd ar draws y sbectrwm gwyddor data, dysgu peirianyddol, amlfodd, ac AI cynhyrchiol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio technoleg i ddatrys heriau cymdeithasol cymhleth. Mae Sefa wedi arwain ar brosiectau sydd werth miliynau o bunnoedd gan hyrwyddo datrysiadau arloesol a yrrir gan AI i ddadansoddi data ar raddfa fawr a datrys problemau yn y byd go iawn.