Tania Russell-Owen

Rheolwr Cynnwys a'r Iaith Gymraeg

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector ieuenctid a gwybodaeth ieuenctid, a chefndir mewn newyddiaduraeth, mae Tania, sydd yn siaradwr Cymraeg, yn gweithio ar draws sawl prosiect yn ProMo Cymru.

Yn gweithio o Ogledd Cymru, mae’n rheoli holl gynnwys o flogiau, tudalennau gwybodaeth, sgriptiau fideo, deunyddiau hyrwyddol, cyfryngau cymdeithasol, adnoddau dysgu a mwy. Mae Tania hefyd yn gyfrifol am ymarferiadau a pholisïau Cymraeg ProMo ac yn rheoli cyfieithu a chynhyrchu cynnwys Cymraeg.

Mae Tania yn angerddol am roi llais i blant a phobl ifanc a chyd-gynhyrchu cynnwys gyda nhw. Mae gwaith yn cynnwys siarad gyda grwpiau o bobl ifanc i greu adran Diogelwch Ar-lein i Lywodraeth Cymru, yn creu cynnwys sydd yn siarad gyda nhw mewn iaith sydd yn ddealladwy iddynt. Esiampl arall oedd gweithio gyda grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches o TGP Cymru i ysgrifennu sgript i greu fideo am eu profiadau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu cynnwys neu faterion iaith Gymraeg, mae Tania’n hapus i sgwrsio.