Pwy ydym ni

Darperir a rheolir y safle hwn gan ProMo Cymru. Mae’r datganiad yma yn berthnasol i wefan ProMo Cymru yn unig ar www.promo.cymru. Mae ProMo Cymru yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Gwarchod Data 1998.

Gwybodaeth a all adnabod pobl yn bersonol

Bydd ProMo Cymru yn casglu gwybodaeth bersonol pan fyddech chi’n ei ddarparu i ni yn benodol ac yn bwrpasol.

Enghreifftiau o wybodaeth bersonol yw:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich rhif ffôn
  • Eich cyfeiriad e-bost

Gwybodaeth na all adnabod pobl yn bersonol

Cesglir gwybodaeth gryno yn awtomatig gan ein system e.e nifer yr ymwelwyr i’r safle. Er mwyn gwneud hyn efallai y bydd angen i ni anfon cwcis i’ch cyfrifiadur. Defnyddir yr wybodaeth yma i fonitro’r defnydd o’r wefan ac ni fydd yn cynnwys gwybodaeth a all eich adnabod fel unigolyn.

Gwefannau trydydd parti

Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nodwch na all ProMo Cymru gael ei ddal yn gyfrifol am arferion preifatrwydd gwefannau eraill. Rydym yn annog pawb sy’n ymweld â’n gwefan i ddarllen a bod yn ymwybodol o ddatganiadau preifatrwydd pob gwefan arall sy’n casglu gwybodaeth sy’n gallu adnabod pobl yn bersonol.

Newidiadau i ddatganiad preifatrwydd

Gall ProMo Cymru newid y datganiad preifatrwydd yma unrhyw bryd. Rydyn ni’n eich cynghori i ddarllen y datganiad yma bob tro fel eich bod yn fodlon gyda’r amodau preifatrwydd wrth roi’ch gwybodaeth bersonol i ProMo Cymru.

Cwcis

Ffeil testun bychan yw cwci ar borwr a disg galed y defnyddiwr sy’n adnabod porwr y defnyddiwr yn unigryw. Ceir dau fath o cwcis: cwcis parhaol a chwcis sesiwn. Mae cwcis sesiwn yn rhai dros dro ac yn cael eu dileu pan fo’r porwr yn cau. Mae cwcis parhaol yn aros ar ddisg galed y defnyddiwr nes bydd y defnyddwyr yn eu dileu pan fyddant yn dod i ben.

Os ydych chi am rwystro cwcis gwefan ProMo Cymru, ewch i Help ar eich porwr gwe.

Mae’r wefan yma yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google. Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis” i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei drosglwyddo a’i storio gan Google ar weinydd. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth yma er mwyn gwerthuso’ch defnydd o’r wefan, llunio adroddiadau am weithgaredd y wefan i weithredwyr y wefan a darparu gwasanaethau eraill yn ymwneud â gweithgaredd y wefan a defnydd y rhyngrwyd.

Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth yma i drydydd parti lle mae’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu â’ch cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar y porwr, ond cofiwch os gwneir hyn efallai na allwch ddefnyddio’r wefan yma’n llawn. Wrth ddefnyddio’r wefan yma, rydych chi’n rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac i’r dibenion a gyflwynwyd uchod.