Mae’r prosiect Arwain Cynefin yn gydweithrediad arloesol rhwng ProMo Cymru, ysgolion cynradd, Institiwt Glyn Ebwy (EVI) a TLP Cymru, yn cael ei gefnogi gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.

star

Cleient

Cwricwlwm i Gymru
Ysgolion Bro ar Waith
TLP Cymru

star

Sector

Sector Cyhoeddus yng Nghymru

star

Partneriaid

Instititwt Glyn Ebwy (EVI)
Ysgolion Cynradd
TLP Cymru
Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

star

Gwasanaethau

Gwybodaeth Ieuenctid Digidol
Cydgynllunio Cyfryngau Digidol

Mae’r prosiect yma yn dysgu sgiliau adrodd stori yn ddigidol ac yn greadigol i athrawon a phobl ifanc, yn creu hyder i archwilio, cysylltu â dathlu trysorau a hanes cymunedol.

Yn gweithio fel prosiect peilot, rydym wedi datblygu glasbrint ar gyfer Cwricwlwm i Gymru ac Ysgolion Bro ar waith gyda Janet Hayward OBE (Pennaeth Gweithredol Ysgolion Tregatwg ac Oak Field yn y Bari) a TLP Cymru , gan gyfuno ein harbenigedd eang mewn addysg, digidol a gwaith ieuenctid.

Ein nod yw darparu pobl ifanc gyda’r hyn sydd ei angen arnynt i ddatblygu dealltwriaeth o’u Cynefin; y bobl, llefydd a’r hanes sydd yn siapio’u cymunedau, yn ysbrydoli angerdd a balchder dros eu hunain a’r byd o’u cwmpas.

Adrodd Stori yn Ddigidol

Cynhaliwyd dau weithdy adrodd stori yn ddigidol gyda hyfforddwyr cyfryngau ProMo Cymru, yn tynnu athrawon a disgyblion blwyddyn 5 o ysgolion cynradd Tregatwg, Oak Field a Willowtown at ei gilydd i ddysgu yng nghanolfan cymunedol a diwylliannol hanesyddol Institiwt Glyn Ebwy (EVI) a Chanolfan Cymunedol Victoria Park. Roedd y gweithdai yn trafod y theori a’r ymarferol o:

  • Gosodiad camera a saethu
  • Goleuo a chyfansoddiad

  • Sain a throsleisio

  • Digideiddio hen ddelweddau
  • Rhag-gynhyrchu a chreu bwrdd stori
  • Rhannu ac allforio ffeiliau cyfryngol
  • Ffilmio a golygu fideo

Archwiliodd ac arbrofodd y grwpiau gyda gwahanol offer cyfryngol, ymarfer cynnal a ffilmio cyfweliadau gyda microffonau ac yn rhoi theori ar waith. Roedd y profiad dysgu cyfoethog yma y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn eu hysbrydoli i gysylltu gyda’u hamgylchedd cymunedol a syniadau ar gyfer eu prosiectau.

Ymholiadau Disgyblion Cynefin

Gyda’r hyn dysgwyd, aeth y plant ati i ddarganfod a dogfennu trysor eu cymuned fel rhan o’u Hymholiadau Cynefin.

Ymestynnodd y disgyblion wahoddiad i aelodau’r gymuned i ddod at ei gilydd a rhannu’r eu barn am beth oedd ystyr Cynefin iddyn nhw. Dogfennwyd y straeon a’r trysorau i Fari a Glyn Ebwy, gan gynhyrchu gwaith celf a darnau ysgrifenedig eu hunain ynghyd â defnyddio adrodd stori yn ddigidol i arddangos yr hyn darganfuwyd.

Digwyddiad Arddangos

Cynhaliwyd arddangosiad a dathliad o’r prosiect yn adeilad Y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 24ain Tachwedd, wedi’i gefnogi gan Lee Waters AS, Jane Hutt AS, ac Alun Davies AS. Cafodd teuluoedd y disgyblion ac aelodau’r cyhoedd oedd yn pasio eu gwahodd i archwilio’u harddangosfa, yn llawn balchder wrth ddangos y darnau anhygoel a rhannu hanes eu cymuned!

I drafod y prosiect neu i ddarganfod mwy, cysylltwch gyda Janet Hayward a Marco Gil-Cervantes ar marco@promo.cymru neu haywardJ@hwbcymru.net.