Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Cyflwyno gweithdai cynllunio gwasanaeth i ailfeddwl systemau yn BIP Caerdydd a’r Fro.

Mae Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro yn y broses o ail-gomisiynu holl Wasanaethau Cyffuriau ac Alcohol ar draws yr awdurdod.

Roedd y tîm comisiynu yn defnyddio dull arloesol a mentrus i ddatblygu’r Strategaeth Comisiynu 2020 gan ailfeddwl sut mae’r system yn gweithio yn gyfan gwbl, wrth weithio gyda darparwyr gwasanaeth a’r bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau.

Cafodd ProMo Cymru eu dewis i gyflwyno cyfres o weithdai Cynllunio Gwasanaeth mewn cydweithrediad â Ruth Jordan, Pennaeth Gwelliant a Gweithrediad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ein dull

Wrth ddefnyddio methodoleg gyfunol o Feddwl a Chysylltu Dyluniad, datblygwyd a chyflwynwyd cyfres deilwredig o bum gweithdy gyda dros 50 o weithwyr proffesiynol a phobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau yn mynychu.

Wrth ddefnyddio proses oedd yn diffinio’r sialens, adolygu’r dystiolaeth a’r data, mapio siwrne pobl a meddwl y greadigol, roeddem yn gallu dadorchuddio unrhyw broblemau, darganfod atebion newydd a chyrraedd consensws am yr hyn oedd angen newid.

Roedd sicrhau ein bod yn gwrando ar broblemau’r bobl eu hunain yn allweddol i’r broses. Bod y bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau yn rhannu eu barn. Roedd gwrando ar eu llais yn fanwl yn arbennig o bwysig, i sicrhau ein bod yn cyrraedd yr hyn sydd wir yn bwysig. Gwnaethom benderfyniad i weithio’n bennaf gyda gweithwyr y rheng flaen hefyd, fydda’n gallu darparu safbwynt clir ar yr holl faterion a phryderon yn ymwneud â’r gwasanaeth.

Un o’r sylwadau ystyrlon gan ddarparwr gwasanaeth oedd bod y system bresennol wedi’i ‘drefnu fel bod pobl yn siŵr o fethu’. Mae pobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol yn arwain bywydau anhrefnus yn aml, ond mae disgwyl iddynt ddilyn system gofal strwythuredig.

“Rydym yn gorfodi strwythur ar anrhefn”
– Gweithiwr Rheng Flaen, Camdriniaeth Cyffuriau

Grŵp o 10 o bobl o amgylch desg yn trafod

Canlyniadau

Y prif themâu a godwyd o’r gweithdai oedd y dylai’r system newydd ganolbwyntio ar:

  • Asesiad holistig sydd yn canolbwyntio ar lesiant cyfan y person
  • Gwybodaeth sydyn a hygyrch a chefnogaeth gynnar
  • Darparu gwasanaethau camdriniaeth sylweddau mewn cyfleusterau cymunedol generig, fel hybiau, meddygfeydd a cholegau
  • Mynd i’r afael ar yr achosion a thaclo stigma

Un o’r syniadau cryfach oedd defnyddio llyw-wyr system a chefnogaeth cyfoedion i gynorthwyo pobl i lywio eu ffordd yn ddi-dor drwy’r system. Cytunwyd y dylai edrych fel un llwybr cefnogaeth hyblyg, gysylltiedig i’r byd tu allan, wedi’i deilwro i gefnogi anghenion unigol pobl.

Bydd y canlyniadau o’r gweithdai yn cael ei ddefnyddio i hysbysu’r strategaeth comisiynu.