Arbrawf ymgysylltu ieuenctid yn ddigidol i greu brand ieuenctid newydd mewn pythefnos.

star

Cleient

Dim

star

Sector

Trydydd Sector

star

Partneriaid

Dim

star

Gwasanaethau

Cydgynllunio Cyfryngau Digidol

Dyma stori am sut aethom ati i greu brand ieuenctid newydd mewn pythefnos wrth ofyn barn 4,000 o bobl ifanc ar Instagram.

Beth oedd y broblem?

Y pwrpas oedd i arbrofi sut gallem gynllunio gyda phobl ifanc ar raddfa mawr. Roedd ProMo Cymru wedi lansio brand newydd i’r llinell gymorth Meic Cymru yn ddiweddar, ac roedd hyn wedi creu cynnydd cyrhaeddiad ac ymgysylltiad sylweddol. Roeddem yn awyddus i arbrofi gydag adeiladu brand ieuenctid o ddim, gyda phobl ifanc yn gwneud yr holl benderfyniadau brandio.


Ein dull

Yn cadw draw o raglenni cyfathrebu fideo ar bwrpas gan fod pobl ifanc wedi dechrau blino o’u defnyddio, penderfynwyd defnyddio polau Instagram taledig yn lle hynny i ofyn cwestiynau am elfennau brand a ffafriaeth. Byddai hyn y caniatáu i ni ddeall yn well beth mae pobl ifanc yn hoff ohono’n ddigidol.

Cychwynnwyd gyda chyfrif Instagram gwag newydd, heb unrhyw frandio, heblaw am y teitl ‘Caerdydd Dienw/Unnamed Cardiff’ a marc cwestiwn fel y llun proffil. Roedd hyn yn rhoi llechen lân i’r brand ac yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu rhoi mewnwelediadau gwreiddiol. Tyfodd y porth Instagram mewn camau yn ddibynnol ar ganlyniadau’r polau. Roedd hyn yn creu rhywbeth roedd pobl ifanc wedi adeiladu eu hunain.

Roedd rhaid bod yn ymatebol yn ein dull o weithio. Byddai pôl barn yn rhedeg am ddiwrnod ac roeddem yn creu dyluniadau ffug gyda’r canlyniadau a chwestiynau dilynol ar gyfer y diwrnod canlynol. Roedd yn gyffrous ac yn heriol parhau i ddatblygu’r brand yn seiliedig ar fewnbwn miloedd o bobl ifanc.

Sefydlwyd y cwestiynau ar 5 prif elfen brandio: ffont, lliw, steil, enw a logo. Ymhob cam, roedd pobl ifanc yn cael dau opsiwn i bleidleisio amdanynt.


Canlyniadau

Erbyn diwedd y pythefnos, roedd dros 4,000 o bobl ifanc 13-25 oed yng Nghaerdydd wedi cymryd rhan. Yn creu brand cyfan o ddim, gan gynnwys logo, steil ac enw. Fel sefydliad rydym wedi dysgu llawer iawn am ffafriaeth pobl ifanc ac mae wedi bod yn gyffrous cael rhoi ymgysylltiad llwyddiannus ar waith, a bod posib gwneud hynny’n sydyn iawn gyda’r fath yma o ymgynghori. Byddem yn defnyddio’r hyn dysgwyd ym mhrosiectau’r dyfodol yn hyderus bod y dull yma yn gallu bod yn llwyddiannus iawn.

I unrhyw sefydliadau sydd eisiau arbrofi gyda dulliau ymgysylltu digidol newydd, cysylltwch â andrew@promo.cymru