Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru – Cyd-gyfieithu Fideos
Cyd-gynllunio a chyd-gyfieithu 56 fideo mewn 14 iaith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan ddefnyddio dull ysgrifennu triawd i newid gwybodaeth hanfodol yn wybodaeth sydd yn haws i’w ddeall a gweithredu arno.
Cleient
Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Sector
Trydydd Sector
Partneriaid
– TGP Cymru
– Prifysgol Abertawe
– Llywodraeth Cymru
Gwasanaethau
– Cyd-gynllunio
– Cyd-gynhyrchu
– Recordio troslais
– Cynhyrchu fideo

Beth oedd y broblem?
Gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, daeth Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, TGP Cymru, a Phrifysgol Abertawe at ProMo Cymru i helpu i greu cyfres o ganllawiau ar ffurf fideo, wedi’u cynllunio ar gyfer plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
Roedd plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches yng Nghymru angen cymorth i ddeall canllawiau ysgrifenedig a ddarparwyd gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, a oedd wedi diweddaru gwybodaeth eu canllawiau ac yn chwilio am ffyrdd i newid y cynnwys i fod yn fwy deniadol a hawdd ei ddeall.
Darparodd Canolfan Gyfreithiol y Plant y cynnwys ysgrifenedig o’r canllawiau wedi’i gyfieithu. Wrth i ni gychwyn ar y broses o gynhyrchu’r fideos a recordio’r trosleisiau gyda’r bobl ifanc, darganfuwyd bod plant sy’n ceisio lloches angen cymorth nid yn unig gyda chyfieithiad llythrennol y canllawiau, ond hefyd gyda’u dehongliadau iaith gymharol oherwydd eu cefndiroedd diwylliannol gwahanol a’u profiadau personol.
Er enghraifft, yng Nghymraeg rydym yn dweud “bwrw hen wragedd a ffyn” i gyfleu ystyr glaw trwm. Fodd bynnag, pe baem yn cyfieithu hyn yn uniongyrchol i siaradwr Saesneg, ni fyddai’n gwneud unrhyw synnwyr a byddai’n cael ei ddeall i olygu bod hen wragedd a ffyn yn llythrennol yn cwympo o’r awyr. Yn lle hynny, yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yw ‘raining cats and dogs’ neu yn y Ffrangeg, ‘Il pleut des cordes” sy’n golygu, ‘Mae’n bwrw glaw o raffau.’
Ein Dull
Mae gan ProMo dros 25 mlynedd o brofiad o gyd-gynllunio prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol, ac mae gan TGP gyfoeth o brofiad yn cefnogi a chynrychioli plant a phobl ifanc bregus yng Nghymru.
Gan ddefnyddio ein profiad cyfunol, aethom ati i greu fideos i helpu plant sydd yn ceisio lloches i ddeall y canllawiau diweddaraf a ddarperir gan Ganolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.
Adolygodd a dehonglodd TGP, eu cyfieithwyr, a’r bobl ifanc yr holl sgriptiau a’u hailysgrifennu mewn ffordd y gellid ei deall. Eisteddom i lawr gyda’r bobl ifanc a chyfieithwyr TGP i adolygu’r wybodaeth yr oedd angen ei gyfleu a chyd-ysgrifennu’r sgript mewn ffordd a oedd yn berthnasol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol i’r bobl bwriedir eu cefnogi.
Ar gael mewn 12 iaith wahanol (Albaneg, Amhareg, Arabeg, Dari, Ffarsi, Kurmanji, Oromo, Pashto, Punjabi, Sorani, Tigrinya, a Fietnameg) mae’r Canllaw Plant ysgrifenedig yn cwmpasu:
- Prosesau ceisio lloches
- Hawliau cyfreithiol sydd ar gael i blant
- Derbyn gofal gweithiwr cymdeithasol
- Eglurhad o’r ffordd y mae’r system fewnfudo yn gweithio
- Cynllun Llwybr pan fyddant yn troi’n 18 oed
- Rhestr o sefydliadau a all helpu

Canlyniadau
Gan ddefnyddio dull Ysgrifennu Triawd, cyd-gynlluniwyd 4 fideo ar gyfer pob iaith, a darparwyd fideos yng Nghymraeg a Saesneg hefyd.Using a Trio Writing approach, we co-designed 4 videos per language, and also provided the videos in English and Welsh.
- Gwneud Cais i Aros yng Nghymru
- Y System Prosesu Lloches
- Ar ôl eich Cyfweliad Lloches
- Eich Hawliau pan Fyddwch yng Nghymru
Recordiwyd y troslais ar gyfer 14 iaith yn ein swyddfa gan geiswyr lloches ifanc sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Roeddem yn ofalus i ystyried dehongliadau iaith amrywiol a chreu pob fideo mewn ffordd a oedd yn gyfeillgar i bobl ifanc ac yn berthnasol i gefndiroedd ac amgylchiadau’r plant.
Mae’r fideos wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Maent ar gael ym mhob iaith trwy’r pedwar dolen a restrir ar y dudalen hon.
Mae pob fideo hefyd wedi’i gynnal ar sianel YouTube Llywodraeth Cymru.
Cysylltwch ag auguste@promo.cymru os oes gennych ddiddordeb mewn creu cyfryngau trwy gyd-gynhyrchu.