Mae ProMo Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop i hyfforddi gweithwyr ieuenctid mewn sut i ddefnyddio dulliau Cynllunio Gwasanaeth i gyd-gynllunio gwaith ieuenctid digidol effeithiol.

star

Cleient

ERYICA (Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop) Erasmus+

star

Sector

Trydydd Sector

star

Partneriaid

Youth Work Ireland (Iwerddon) Koordinaatti (Y Ffindir) Agence Nationale pour l’Information des Jeunes (Lwcsembwrg) Dirección General de Juventud y Deportes de Madrid (Sbaen) Aġenzija Żgħażagħ (Malta) Institut Valencià de la Joventut (Sbaen) Åbo Akademi University (Y Ffindir)

star

Gwasanaethau

Hyfforddiant Cynllunio Gwasanaeth ac Ymgynghoriad

Bu ProMo Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â naw o sefydliadau ieuenctid arweiniol ar draws Ewrop i greu cwrs e-ddysgu gyda’r bwriad o gyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth i waith ieuenctid.

Bûm yn gweithio ar y cyd i gyfuno Cynllunio Gwasanaeth gyda gwaith ieuenctid cyfranogol. Yn datblygu ac yn cyd-gynllunio gwasanaeth trwy broses pedwar cam sydd yn sicrhau bod yr hyn sydd yn cael ei adeiladu yn hygyrch, yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i bobl ifanc.

Mae’r adnoddau datblygwyd yn cynnwys cwrs e-ddysgu, pecyn cymorth ac adroddiad darganfyddiad i ymddygiad pobl ifanc wrth iddynt fynd i chwilio am wybodaeth. Bu ProMo yn arwain ar greu’r Pecyn Cymorth DesYIgn a fideos hyfforddi, oedd yn amlygu cynnwys y cwrs e-ddysgu, wedi’i gynllunio gan Koordinaatti.

Rydym wedi profi ac addasu’r cwrs a’r deunyddiau gyda gweithwyr ieuenctid ac mae wedi cael ei gyfieithu i bedwar iaith.

Defnyddiom ein harbenigedd mewn animeiddiad i greu cynnwys syml a gwybodus mewn pedwar iaith wahanol, gan roi eglurhad o Gynllunio Gwasanaeth o fewn cyd-destun gwaith ieuenctid.

Ariannwyd y prosiect trwy gyllid Erasmus+ wedi ei arwain gan ERYICA (Lwcsembwrg), Youth Work Ireland (Iwerddon), Koordinaatti (Y Ffindir), Agence Nationale pour l’Information des Jeunes (Lwcsembwrg), Dirección General de Juventud y Deportes de Madrid (Sbaen), ProMo Cymru (Cymru, DU), Aġenzija Żgħażagħ (Malta), Institut Valencià de la Joventut (Sbaen) a Phrifysgol Åbo Akademi University (Y Ffindir).

Beth Nesaf?

Mae’r cwrs DesYIgn yn cael ei gyflwyno ledled Ewrop am ddim i holl weithwyr ieuenctid. Mae’r profi cychwynnol yn dangos bod gweithwyr ieuenctid yn mwynhau’r cwrs a bod yr adnoddau yn ddefnyddiol. Cysylltwch ag Arielle Tye am wybodaeth bellach ar arielle@promo.cymru

Gweithio gyda ProMo Cymru

Mae ProMo yn cefnogi ac yn gwella sgiliau sefydliadau i gynllunio a datblygu gwasanaethau gyda, ac ar ran pobl, bod hynny ar-lein neu all-lein.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ni i gyd-gynllunio gwasanaethau gwell, cysylltwch ag Arielle ar arielle@promo.cymru