Grŵp Ymgynghorol Iechyd Meddwl Ieuenctid GIG Cymru
Creu llais ieuenctid effeithiol mewn polisi iechyd meddwl cenedlaethol
Cleient
GIG Cymru
Sector
Iechyd Cyhoeddus
Partneriaid
Platfform
Gwasanaethau
Llais Ieuenctid
Cyd-gynhyrchu
Hyfforddiant
Iechyd Meddwl
Mae ProMo Cymru yn arwain datblygiad grŵp ymgynghorol ieuenctid cenedlaethol newydd ar gyfer GIG Cymru, wedi’i gynllunio i ymgorffori lleisiau pobl ifanc yng ngweithrediad strategaeth 10 mlynedd iechyd meddwl a llesiant meddyliol Llywodraeth Cymru.
Cefndir
Mae strategaeth newydd Llywodraeth Cymru yn nodi newidiadau ac uchelgeisiau beiddgar a fydd cael effaith ar bobl ifanc ledled Cymru. Mae Perfformiad a Gwella’r GIG yn cydnabod bod angen i bobl ifanc fod yn rhan o’r broses hon, nid ymgynghori â nhw ar ôl gwneud penderfyniadau.
Yn dilyn gwaith ProMo ar y rhaglen Meddwl Ymlaen, cysylltodd Charlotte Thomas o Berfformiad a Gwella’r GIG. Mynychodd gyfarfod rhwydwaith dysgu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol lle’r oedd derbynwyr grant sy’n gweithio gyda phobl ifanc ar iechyd meddwl yn bresennol. Gwahoddodd sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi datblygiad grŵp cynghori ieuenctid i barhau â’r sgwrs.
Mae ProMo Cymru bellach yn arwain y gwaith hwn mewn partneriaeth â Platfform a Perfformiad a Gwella’r GIG. Mae’r prosiect yn rhedeg tan fis Medi 2025.
Ein dull
Rydym wedi recriwtio 10 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru i greu’r grŵp craidd. Maent yn cynrychioli pedair ardal bwrdd iechyd, gyda gwaith yn parhau i ymestyn cyrhaeddiad i’r tri sy’n weddill. Mae pob person ifanc yn derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol am eu cyfranogiad.
Mae’r grŵp wedi cwblhau rhaglen hyfforddi a chynefino pedair wythnos sy’n cwmpasu: canlyniadau a nodau’r prosiect; methodoleg cynllunio gwasanaeth; ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a dulliau sy’n seiliedig ar drawma; a diogelu a ffiniau.
Mae tri mentor o ProMo a Platfform yn darparu goruchwyliaeth ysgafn, gan wirio bob pedair i chwe wythnos bod y bobl ifanc yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Darganfod
Mae’r grŵp bellach yn creu bwrdd Gwybodaeth i fapio’r hyn a wyddom, yr hyn a gredwn y gwyddom, a’r hyn na wyddom am strwythurau cynghori ieuenctid effeithiol. Mae cwestiynau allweddol yn dod i’r amlwg: beth sy’n atal pobl ifanc rhag ymuno â byrddau cynghori? I’r rhai sy’n ymuno, beth sy’n achosi iddynt barhau i ymgysylltu? Pa fformatau a strwythurau sy’n llwyddiannus mewn gwirionedd?
Bydd dulliau ymchwil yn cael eu datblygu ym mis Ionawr: pwy i’w cyfweld, sut i godi’r pwnc â nhw, pa gwestiynau i’w gofyn, a sut i gasglu a dadansoddi’r wybodaeth. Ym mis Chwefror, bydd y bobl ifanc yn cynnal yr ymchwil eu hunain, gan gyfweld â chyfoedion a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Ym mis Mawrth, byddwn yn dod ynghyd i ddadansoddi canfyddiadau, gan arwain at ddigwyddiad trwy’r dydd ar 31 Mawrth yng Nghaerdydd, ble bydd y grŵp yn cyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.

Canlyniadau
Erbyn y gwanwyn, byddwn yn cynhyrchu adroddiad darganfod gan nodi’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu am strwythurau cynghori ieuenctid effeithiol. Yna bydd y grŵp yn symud ymlaen i ddatblygu a phrofi syniadau. Pa fformat sydd angen i’r grŵp ei fabwysiadu? Sut mae’n bwydo i benderfyniadau’r GIG a’r byrddau iechyd yn effeithiol?
Byddwn yn gweithio gyda GIG Cymru i nodi cyfleoedd lle gall y grŵp brofi eu dulliau yn ymarferol. Bydd angen mireinio rhai syniadau. Byddwn yn ailadrodd, yn profi eto, ac yn dysgu beth sy’n gweithio.
Erbyn mis Medi, byddwn wedi rhoi modelau profedig ar waith ar gyfer sut y gall grŵp cynghori ieuenctid fwydo’n effeithiol i bolisi iechyd meddwl cenedlaethol a chynllunio gwasanaethau. Bydd y prosiect yn cyflwyno argymhellion clir ar strwythur, fformat, cylch gorchwyl, a ffyrdd o weithio sy’n ymgysylltu â phobl ifanc mewn gwirionedd ac yn arwain at ddylanwad ystyrlon.
Dywedodd Ciara Rogers, Cyfarwyddwr Cenedlaethol – Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Niwroamrywiaeth yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru:
“Mae ein cydweithrediad â ProMo Cymru a Platfform, a gefnogir drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn rhodd fawr i’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae eu cyfranogiad yn caniatáu i ni ddod â lleisiau plant a phobl ifanc i galon cynllunio strategol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys, yn ddiogel, ac wedi’i seilio ar hyder.
“Mae’r ddau sefydliad yn dod â chymaint o gynhesrwydd, sgiliau ac ymrwymiad dwfn i greu mannau lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Mae eu cefnogaeth yn gwir gatalydd i ni – gan greu cyfle enfawr nid yn unig i wrando ar blant a phobl ifanc, ond i weithio ochr yn ochr â nhw fel partneriaid wrth lunio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
“Mae eu gwaith i sefydlu Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc wedi dod â gwir obaith a chyffro am yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol pan fydd plant a phobl ifanc yn helpu i arwain y ffordd.”
Pam bod hyn yn bwysig
Yn aml, mae strwythurau ymgynghorol traddodiadol yn methu ag ymgysylltu â phobl ifanc yn ystyrlon. Mae cyfarfodydd sy’n teimlo fel cyfarfodydd, ymgynghoriadau sy’n digwydd ar ôl gwneud y penderfyniadau, a chyfranogiad tocynistaidd sydd ddim yn arwain at newid, i gyd yn cyfrannu at ymddieithrio.
Yn hytrach na thybio ein bod yn gwybod sut dylai grŵp ymgynghorol edrych, rydym yn gofyn i bobl ifanc archwilio, cynllunio a phrofi’r hyn sydd wir yn effeithiol. Mae gan y bobl ifanc sy’n arwain y gwaith yma brofiad uniongyrchol o wasanaethau iechyd meddwl ac maent yn deall beth mae cyfranogiad ystyrlon yn edrych fel.
Dywedodd Manon Roberts, 24, o Gaernarfon:
“Rwyf wedi mwynhau ac wedi buddio’n fawr o fod yn Ymgynghorydd Ieuenctid GIG (Iechyd Meddwl) hyd yma! Dwi wedi mwynhau cael cyfarfod â phobl ifanc eraill o ledled Cymru sydd â’r un meddylfryd, sy’n angerddol am bwysigrwydd llais a llesiant ieuenctid. Mae’n rhoi cyfle i ni drafod pynciau pwysig a rhannu ein barn, profiadau a syniadau, i lunio a chynnal prosiect ymchwil effeithiol. Rwyf wedi dysgu llawer iawn gan eraill yn barod, ac edrychaf ymlaen at gyfnodau nesaf y prosiect yma.”
Mae’r uchelgais yn ymestyn y tu hwnt i’r grŵp unigol hwn. Os gallwn ddangos modelau effeithiol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc mewn polisi iechyd meddwl, gellir ailadrodd y dulliau yma ar draws byrddau iechyd a meysydd polisi eraill. Mae yna botensial i’r dysgu o’r prosiect yma drawsnewid sut mae lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Cefnogir Grŵp Ymgynghorol Iechyd Meddwl Ieuenctid GIG Cymru gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallem dalu pobl ifanc o bob cwr o Gymru i gynllunio a phrofi dulliau newydd o ymgorffori llais pobl ifanc mewn polisi a gwasanaethau iechyd meddwl cenedlaethol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gwaith, e-bostiwch cindy@promo.cymru