Institiwt Glyn Ebwy
Canolfan cymunedol a diwylliannol bywiog ar gyfer Blaenau Gwent a’r ardal gyfagos
Cleient
Dim
Sector
Trydydd Sector
Partneriaid
Dim
Gwasanaethau
Datblygiad Cymunedol
Wedi ei brynu gan ProMo Cymru yn 2008, mae Institiwt Glyn Ebwy yn adeilad sydd yn llawn hanes a diwylliant.
Arloesedd sydd wrth galon y prosiect yma, trawsffurfiad parhaus i ymateb i anghenion y gymuned.
Beth oedd y broblem?
Yn dyddio’n ôl i 1849, mae Institiwt Glyn Ebwy (EVI) yn adeilad rhestredig gradd II, institiwt hynaf Cymru. Wedi ei adael i fynd i adfail am gyfnod hir roedd cyflwr gwael iawn ar yr adeilad.
Roedd angen buddsoddiad ac adfywiad yn y rhanbarth o gwmpas EVI er mwyn adnewyddu’r ardal.
Gyda’r angen am ofod newydd ar gyfer datblygiadau diwylliannol a chreadigol, daeth ProMo Cymru yn berchnogion EVI a chychwyn ar y gwaith o adfywio ac ailsefydlu fel canolfan cymunedol a diwylliannol.
Ein dull
Bwriad EVI yw cyflwyno gweithgareddau a gwasanaethau diwylliannol a chymunedol i gymuned Glyn Ebwy ac i roi hwb i ragolwg busnes Blaenau Gwent.
Datblygwyd adfywiad yr adeilad gan ProMo Cymru gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’r gymuned leol. Mae cyllid Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Loteri Fawr wedi galluogi EVI i gadw’r drysau’n agored. Daeth cyllid ychwanegol gan fenter Blaenau’r Cymoedd gyda nawdd gan Sennheiser.
Gyda’r buddsoddiad yma yn uwchraddio EVI gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, mae ProMo Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cadw hanes y rhanbarth.
Canlyniadau
Mae EVI yn agored i unrhyw un y gymuned. Mae’r adeilad yn rhoi rhywbeth newydd i’r ardal ganolbwyntio arno, gan ddarparu rhaglen o weithgareddau creadigol, gweithdai, hyfforddiant a chymorth.
Dros y blynyddoedd, mae EVI wedi trawsnewid gydag anghenion y gymuned. Ar un adeg roedd bar trwyddedig yno ac roedd yn lleoliad i ddigwyddiadau a chyngherddau, gyda chyfleusterau recordio o’r radd flaenaf, ystafelloedd ymarfer, a stiwdios dawns. Bellach, mae’r bar wedi’i drawsnewid yn bantri cymunedol, a’r stiwdio recordio yn cael ei ddatblygu’n ofod amlbwrpas ar gyfer y ganolfan.
Cynhelir sawl menter gymunedol yn EVI, gan gynnwys Caffi Trwsio, Gardd Gymunedol, Clwb Cinio Dros 55, Clwb Ffilm, a Chaffi Dementia, i enwi dim ond rhai.
Mae Institiwt Glyn Ebwy yn canolbwyntio ar gefnogi aelodau’r gymuned i uwchsgilio a datblygu. Mae’r ganolfan yn croesawu tîm mawr o wirfoddolwyr sydd yn hanfodol i gyflawni’r cymorth cynigir yn EVI. Mae’r gwirfoddolwyr yn rhannu sut mae gweithio yn EVI wedi rhoi pwrpas ac angerdd iddynt, sydd yn cael effaith bositif ar eu bywydau.
Mae Sue Davies, un o’r gwirfoddolwyr yn y Pantri Cymunedol, wedi bod yn gwirfoddoli yno ers cychwyn y pantri yn fis Chwefror 2023. Cafodd ei chyfweld gan y BBC, a rhannodd: “Cyn i mi ddod yma, doedd bywyd ddim yn symud, roeddwn yn gwneud dim. Doedd gen i ddim hyder ar ôl colli fy ngŵr, ac wrth gerdded heibio un diwrnod gwelais arwydd “chwilio am wirfoddolwyr”. Meddyliais ‘pam ddim’ ac es i mewn, ac i fod yn gwbl onest, mae wedi gwneud gwyrthiau i mi”.
Mae EVI hefyd yn gartref i sawl sefydliad gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent, Gwent N-Gage, Cymorth i Ferched Cyfannol a Hyfforddiant ACT (wedi’u lleoli yn ein hail adeilad, 55 Church Street).