Meic
Cyflwynodd ProMo Cymru llinell gymorth eiriolaeth gyffredinol yn llwyddiannus – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Cleient
Llywodraeth Cymru
Sector
Pobl Ifanc yng Nghymru
Partneriaid
Dim
Gwasanaethau
Gwybodaeth Ieuenctid Digidol
Gwasanaethau Digidol wedi’u Cydgynllunio
Yn aml mae plant a phobl ifanc yn wynebu anawsterau ac maent angen help â rhai materion fel perthnasau (gyda theulu, ffrindiau, athrawon, gweithwyr cymdeithasol…), iechyd corfforol a meddyliol, lles emosiynol ac addysg. Os nad ydynt yn gwybod ble i fynd am gymorth, neu yn ei chael yn anodd mynegi eu hunain, neu’n teimlo nad oes neb yn gwrando, gall y problemau yma fynd yn waeth, ac arwain at sefyllfa o niwed neu risg i’r plentyn neu berson ifanc.
Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Meic yno fel “rhywun ar dy ochr” ac yn adnodd gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth arweiniol yng Nghymru i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol, am ddim, gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun, neges wib ac e-bost o 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae Meic yn sicrhau bod llais y plentyn/person ifanc yn cael ei glywed ac yn cael ei weithredu arno, yn caniatáu gwneud penderfyniadau gwybodus a newid. Mae Meic yn cefnogi ac yn hyrwyddo lles a diogelwch plentyn neu berson ifanc.