Pili-pala
Mae mynd at waith yn greadigol a chynnwys pobl yn y cyd-gynllunio yn rhywbeth arferol i ProMo Cymru. Mae’r rhinweddau yma wedi ein helpu i fabwysiadu ymarferion gwell a chyfathrebu’n fwy ystyrlon.
Yn 2018, cynhyrchwyd Pili-pala: fideo yn tanategu ymgyrch drwy’r wlad yn ymwneud â rheolaeth orfodol ar gyfer y llinell gymorth Meic. Meic ydy’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth Genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Bûm yn gweithio gyda Sarah McCreadie, bardd gair llafar 25 oed, i greu darn gair llafar am sut beth yw bod mewn perthynas sydd ddim yn iach.
Roeddem yn awyddus i gyfleu’r synnwyr o ddolur, dryswch ac ansicrwydd y gall pobl ifanc deimlo yn y sefyllfa yma. Derbyniodd yr her a chreu Pili-pala, darn gwych sydd yn cyfleu geiriau pobl ifanc yn berffaith heb deimlo’n ormesol, afrealistig neu’n pregethu.
“Wrth ysgrifennu’r gerdd, dechreuais y broses wrth ateb cwestiwn o safbwynt person ifanc sy’n poeni: Ydy fy mherthynas yn normal?” meddai Sarah.
“Roeddwn eisiau cyflwyno amwysedd perthnasau sydd ddim yn iach, a ddim pregethu ar rywun ‘bod hyn yn ddrwg, a hyn yn dda’ gan nad dyma’r gwirionedd. Credaf y byddai hynny’n ei wneud yn anodd i rywun gysylltu ag ef,” eglurai.
Creu Pili-pala
Cyfieithwyd Pili-pala a gofynnwyd i Mari Gil-Cervantes i recordio’r llais Cymraeg. Gyda’r ddau lais wedi’i recordio, cafodd y gerdd ei hanimeiddio i greu fideo, gyda’r thema pili-pala yn ganolbwynt iddo.
“Roeddwn yn hapus iawn â’r canlyniad terfynol a’r ymateb iddo,” meddai Sarah yn falch.
“Roedd yn golygu cymaint i mi fod y gerdd wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg. Roeddwn yn ymwybodol iawn o’r cyfrifoldeb o’i ysgrifennu ac eisiau gwneud hyn yn berffaith. Rwy’n gobeithio bod hwn wedi gwneud gwahaniaeth i rywun.”
Cyfleu’r Gymraeg
Roedd Mari hefyd yn falch iawn o’r gwahoddiad i recordio’r cyfieithiad Cymraeg o’r gerdd.
“Fel rhywun sydd wedi mynychu ysgol iaith Gymraeg, mae’n hyfryd gweld adnoddau gan bobl ifanc, i bobl ifanc, yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog. Pan ddarllenais y gerdd am y tro cyntaf, diflannodd fy mhryder nad fyddwn yn gallu perthnasu ag ef,” meddai Mari.
“Ar ôl trafod gyda Sarah am y ffordd roeddwn i wedi dehongli’r cyfieithiad teimlais yn hyderus iawn. Er bod gen i berthynas fy hun gyda’r gerdd, roedd y neges a’r teimlad craidd yn disgleirio drwodd hyd yn oed mewn iaith wahanol.
“Roedd yn brofiad gwobrwyol iawn ac rwyf yn falch bod neges mor bwysig yn gallu cael ei gyfleu yn yr iaith Gymraeg,” ychwanegodd Mari.