Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Llinell gymorth gwasanaeth eiriolaeth i gefnogi dinasyddion sydd yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael llais a dewis o ran gwasanaethau cymorth gofal cymdeithasol.

star

Cleient

Anhysbys

star

Sector

Sector Cyhoeddus

star

Partneriaid

Cyngor Caerdydd
Cyngor Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Age Connects
Advocacy Matters (Cymru)
Diverse Cymru

star

Gwasanaethau

Llinell Gymorth
Eiriolaeth

Mae Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro yn wasanaeth llinell gymorth i drigolion dros 18 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Dyma un pwynt cyswllt i oedolion sydd yn chwilio am gymorth i’w helpu i gael bod yn rhan o benderfyniadau wrth gynllunio a darparu eu gofal a’u cymorth, fel diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

Gall helpu’r rhai sydd yn derbyn gofal, angen cymorth neu weithwyr proffesiynol gofal/cymorth sydd yn poeni am ofal cymdeithasol a chymorth rhywun.

Gall Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro:

  • Helpu pobl i ddeall eu sefyllfa, anghenion gofal cymdeithasol a chymorth, a’r opsiynau sydd yn agored iddynt
  • Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddarganfod y gwasanaethau cywir i ddiwallu anghenion person
  • Helpu pobl i ddeall gwybodaeth, trafodaethau, a phrosesau i wneud penderfyniadau gwybodus
  • Helpu pobl i gael eu clywed, i siarad ar eu rhan a’u cyfeirio at wasanaethau eiriolaeth – gan gynnwys eiriolwr proffesiynol annibynnol (IPA).
Merch ifanc yn eistedd mewn cadair olwyn yn yr awyr agored, yn ei llaw mae ffôn symudol.

Beth oedd y broblem?

Roedd dod o hyd i wybodaeth, cymorth ac eiriolaeth yn anodd i bobl sydd yn derbyn gofal, neu i’r bobl sydd ddim yn derbyn gofal ond efallai ei angen. Roedd hefyd yn rhoi her i weithwyr proffesiynol neu aelodau’r teulu a oedd yn poeni am ofal a chymorth cymdeithasol rhywun.

Nid oedd pwynt canolog ar gyfer gwybodaeth angenrheidiol pan ddaw at ofal cymdeithasol a chymorth. Golygai hyn bod nifer yn cael eu gadael ar ôl oherwydd diffygion yn y system.

Er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen ar yr adeg gywir, crëwyd y syniad o greu un pwynt mynediad ar gyfer cymorth.

Person yn rhoi'r ffôn i lawr ar ffôn swyddfa draddodiadol.

Ein dull

Daeth sawl sefydliad at ei gilydd i greu Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Age Connects, Advocacy Matters (Cymru) a Diverse Cymru.

Gyda’r bwriad o fod yn fan cyswllt cyntaf, gellir cysylltu â’r llinell gymorth rhad ac am ddim yma ar 0808 801 0577 i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag eiriolaeth. Mae’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb tan 5yp.

Mae’r llinell gymorth yn cael ei staffio gan dîm proffesiynol medrus iawn o Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth, a gyflogir gan ProMo Cymru.

Dywedodd Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol ProMo Cymru; “Mae ein harbenigedd yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth ar-lein a digidol, ynghyd â’n henw da o ran gwerthfawrogi hawliau pobl, yn golygu mai ni yw’r dewis perffaith i ddatblygu a darparu’r gwasanaeth yma ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg.”

Dyn yn gwisgo clustffonau a microffon mewn amgylchedd swyddfa. Mae'n gwenu tra ar yr alwad.

Canlyniadau

Mae Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro wedi profi ei hun i fod yn adnodd hanfodol i drigolion Caerdydd a Bro Morgannwg sydd yn chwilio am gefnogaeth gyda’u hanghenion gofal a chymorth. Ers ei sefydlu, mae’r gwasanaeth wedi ymdrin â nifer o achosion ac atgyfeiriadau i Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol (IPA).

Mae Andrew Cole, Rheolwr Gweithredol Cyngor Bro Morgannwg, yn canmol effaith y gwasanaeth: “Mae’n wych cael porth syml a hygyrch i eiriolaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r porth yn galluogi unrhyw un i siarad am eu hanghenion eiriolaeth heb orfod gweithio allan gyntaf pa sefydliad i gysylltu ag ef.”

Wrth ddarparu un pwynt mynediad, mae’r Porth wedi symleiddio’r broses ar gyfer unigolion sydd yn chwilio am gymorth, gan sicrhau y gallant gysylltu â’r gwasanaethau priodol yn effeithlon. Mae’r dull canoledig hwn hefyd wedi cyfrannu at ymateb mwy cydgysylltiedig ac effeithiol i anghenion cymhleth y gymuned.

Mae llwyddiant y Porth yn destament i ymdrechion cydweithredol Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Age Connects, Advocacy Matters (Cymru), a Diverse Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r sefydliadau hyn wedi creu gwasanaeth cadarn a hygyrch sy’n gwneud gwahaniaeth diriaethol ym mywydau unigolion di-rif.