Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i brofi syniadau sydd yn helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i rannu ac addasu arfer da

star

Cleient

Prifddinas Ranbarth Caerdydd

star

Sector

Cyhoeddus

star

Partneriaid

Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Sir Fynwy
Trafnidiaeth Cymru

star

Gwasanaethau

Cymorth Digidol
Cynllunio Gwasanaeth
Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

Defnyddiodd ProMo Cymru Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) i brototeipio ‘Cyfnewid Gwybodaeth Cymru’ yn sydyn, llwyfan wedi’i ysbrydoli gan GitHub i helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus Cymru i rannu ac addasu arfer da llwyddiannus.

Yr Her

Mae gan Brifddinas Ranbarth Caerdydd (PRC), sef 10 o gynghorau ledled De Ddwyrain Cymru, weledigaeth i yrru datblygiad economaidd. I wireddu’r nod yma, maent yn awyddus i feithrin gallu rhanbarthol i gefnogi Cymru i gyflawni sero net. Ymestynnwyd gwahoddiad i gymryd rhan mewn rhaglen gydweithredol er mwyn ceisio ysgogi ‘r arloesedd yn y maes. Daeth awdurdodau lleol, cwmnïoedd preifat, Trafnidiaeth Cymru. a’r trydydd sector at ei gilydd i brofi datrysiadau.

Bu ProMo yn gweithio’n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy, a Thrafnidiaeth Cymru, i ddeall y rhwystrau i gydweithio traws-sector ar fentrau hinsawdd.

Byddai’r hyn darganfuwyd yn y sgyrsiau yn ail-siapio ein dealltwriaeth o’r broblem.

Anawsterau Rhannu’r Dysgu

Cawsom ein synnu gan yr hyn dysgwyd. Nid diffyg syniadau arloesol nac cyfyngiadau cyllid oedd y rhwystr fwyaf. Yn hytrach, roedd yn broblem sylfaenol o rannu gwybodaeth. Roedd sefydliadau yn aml yn dyblygu ymdrechion am nad oeddent yn gweld yr hyn roedd eraill eisoes wedi ei brofi neu ei fireinio. Heblaw am e-bost, nid oedd dulliau digidol cyffredin i rannu gwybodaeth (soniwyd am Sharepoint, ond ysgwyd pen oedd ymateb sawl un!)

Roedd gan staff awdurdodau lleol lot i ddweud am yr her yma. Roeddent yn amau bod yna ddatrysiadau i’w problemau ar gael yn rhywle, ond nid oedd ganddynt ffordd effeithiol i ddarganfod ac addasu’r ymarferion yma i’w cyd-destun lleol.

Cyflwyno ‘GitHub’ ar gyfer Arfer Da

Cyflwynodd y mewnwelediad yma ni i gysyniad wedi ei ysbrydoli gan y ffordd mae datblygwyr meddalwedd yn gweithio â’i gilydd: GitHub ar gyfer arfer Da.

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â GitHub, dyma lwyfan â chwyldroad datblygiad meddalwedd gan alluogi datblygwyr i:

  • Rhannu cod yn gyhoeddus
  • Caniatáu eraill i greu ‘fforch’ (fersiwn eu hunain) o brosiectau sy’n bodoli eisoes
  • Tracio’r berthynas rhwng fersiynau gwreiddiol ac wedi’u haddasu
  • Cofnodi unrhyw broblemau, newidiadau, a gwelliannau
  • Cyd-weithio ar draws sefydliadau a ffiniau daearyddol

Fe welsom fod cyfle cyfochrog o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Beth os gall sefydliadau rannu eu mentrau llwyddiannus gyda’r un tryloywder a hyblygrwydd?

Sgrinlun o dudalen Cyfnewid Gwybodaeth Cymru.

Y Prototeip

Yn hytrach na threulio misoedd mewn cyfarfodydd cynllunio, penderfynom ddefnyddio dull prototeipio sydyn i brofi’r cysyniad. Gan ddefnyddio gallu prosiectau ac arteffactau Claude AI. datblygwyd prototeip gweithredol yn gyflym galwyd yn ‘Cyfnewid Gwybodaeth Cymru.’

Nid yw’n gynnyrch gorffenedig ond mae’n ffordd ddefnyddiol iawn o gael mewnwelediadau pellach.

Mae’r prototeip yn arddangos sawl nodwedd allweddol:

  1. Rhannu Ymarfer: Gall awdurdodau lleol gofnodi mentrau llwyddiannus, gan gynnwys astudiaethau achos manwl a’r prif bethau dysgwyd.
  2. Categoreiddio: Mae arferion yn cael eu trefnu fesul sector (Gwasanaethau Digidol, Amgylchedd, Addysg, Iechyd) fel bod chwilio yn haws.
  3. Gallu Fforchio: Gall sefydliadau ‘fforchio’ arferion presennol, gan gofnodi’r ffordd maent wedi addasu’r syniad craidd i’w cyd-destun lleol.
  4. Tracio Perthynas: Mae’r llwyfan yn cadw cysylltiadau clir rhwng arferion gwreiddiol a’u haddasiadau.
  5. Cofnodion Manwl: Mae pob arfer yn cynnwys crynodeb cryno a manylion gweithredu manwl.

Defnyddiwch y Prototeip

Gallwch archwilio’r prototeip heddiw. Ymwelwch â Phrototeip Cyfnewid Gwybodaeth Cymru i brofi’r platfform eich hun. Mae’r wefan yn dangos sut gall sefydliadau rannu mentrau, darganfod datrysiadau pobl eraill, ac addasu arferion i’w cyd-destun lleol o fewn rhyngwyneb wedi ei adeiladu yn defnyddio prototeipio sydyn iawn wedi ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial.

Mae’r prototeip yn dangos esiamplau go iawn, fel rhaglen cerbyd trydan staff Cyngor Sir Fynwy, gan ddangos sut gall wahanol sefydliadau rannu eu harbenigedd unigryw.

Gwerth Prototeip

Mae yna ddyfyniad enwog am brototeipiau, “Mae un prototeip yn werth mil o gyfarfodydd.” Roedd y model rhyngweithiol yn darparu rhanddeiliaid gyda rhywbeth go iawn gellir ei archwilio ac ymateb iddo, gan greu adborth llawer mwy gwerthfawr nag trafodaethau cysyniadol yn unig.

Roedd sawl mantais i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i brototeipio’n sydyn:

  • Cyflymder: Cafodd fersiwn oedd yn gweithio ei greu mewn oriau yn hytrach nag wythnosau
  • Hyblygrwydd: Gallem iteru’n sydyn ar ôl derbyn adborth yn syth
  • Delweddu: Gall rhanddeiliaid ‘weld’ y syniad yn hytrach nag gorfod ei ddychmygu
  • Ymgysylltiad: Roedd y prototeip yn sbarduno sgyrsiau mwy ystyrlon am fanylion gweithredu

Er y byddai’r prototeip a gynhyrchir gan AI yn gofyn am ddatblygiad proffesiynol i gyrraedd fersiwn sydd yn gweithio’n llawn, roedd yn bodloni ei bwrpas yn berffaith ar gyfer cam yma’r prosiect: dilysu’r cysyniad a chasglu adborth gwybodus.

Statws Presennol a Chamau Nesaf

Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn eistedd o fewn cam Datblygu Diemwnt Dwbl Cynllunio Gwasanaeth. Mae’r ymateb gan staff yr awdurdod lleol wedi bod yn bositif dros ben, gyda sawl un yn mynegi brwdfrydedd i gael llwyfan fydda’n caniatáu iddynt rannu gwybodaeth yn y ffordd strwythuredig yma.

Ond, mae nifer o gwestiynau pwysig angen eu hateb o hyd:

  1. Perchnogaeth y Llwyfan: Pwy fydd yn berchen ar, ac yn cynnal y llwyfan, yn y pen draw?
  2. Sicrhau Ansawdd: Sut mae diffinio a dilysu ‘arfer da’ mewn ffordd sydd yn sicrhau ansawdd heb greu rhwystrau i rannu?
  3. Integreiddio: Sut gall y llwyfan yma gysylltu gyda systemau rheoli gwybodaeth neu rwydweithiau rhannu anffurfiol sydd yn bodoli eisoes?
  4. Cynaliadwyedd: Pa fodel cyllid a llywodraethu bydda’n sicrhau dichonoldeb hirdymor?

Cymryd Rhan

Rydym yn credu bod potensial sylweddol i’r syniad Cyfnewid Gwybodaeth Cymru i drawsffurfio’r ffordd mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn cydweithio ac yn arloesi. Mae’r prototeip yn dangos bod yr heriau technegol yn gyraeddadwy, ond bod angen mwy o archwilio i’r cwestiynau sefydliadol a chysyniadol gyda phartneriaid.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno gyda ni i ddatblygu’r syniad yma ymhellach, neu os ydych chi wedi gweld rhywbeth yn yr astudiaeth achos yma sydd yn berthnasol i’ch  gwaith, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.

Cysylltwch â Nathan yn ProMo Cymru i barhau gyda’r sgwrs a helpu i greu dyfodol mwy cydweithiol i wasanaethau cyhoeddus Cymru.