Adnodd syml, rhad ac am ddim i sefydliadau trydydd sector i drawsgrifio ffeiliau sain.

Beth mae’n ei wneud

Dyma app gwe syml sy’n trawsgrifio ffeiliau sain yn destun. Llwythwch y ffeil i fyny, derbyn eich trawsgrifiad, copïo’r testun, a dyna ni.

Y rheswm dros adeiladu hwn

Yn ProMo Cymru, mae angen i ni drawsgrifio sain o bryd i’w gilydd – cyfweliad, recordiad gweithdy, pennod podlediad. Nid oes angen meddalwedd trawsgrifio menter gyda rheolaeth tîm, integreiddiadau, a thanysgrifiadau misol. Mae’r rhain yn ddrud.  Rydym angen rhywbeth sy’n gweithio pan fydd ei angen ac sy’n helpu i gadw costau’n rhesymol.

Rydym yn credu’n gryf mewn prototeipio, ac roeddem eisiau profi’r hyn sy’n bosib nawr wrth i chi ddefnyddio AI i adeiladu adnoddau syml. Dyma’r canlyniad: rhaglen trawsgrifio weithredol sy’n gwneud yn union yr hyn sydd ei angen arnom, wedi’i adeiladu’n gyflym ac i gost isel iawn.

Mae meddwl fel hyn yn cyd-fynd â’r hyn y mae Vaughn Tan yn ei alw’n “Boring Tiny Tools” – meddalwedd â chwmpas cul sy’n gwneud yn union yr hyn sydd ei angen arnoch chi a dim mwy, wedi’i gynllunio i ffitio’n ddi-dor i’r ffordd rydych chi eisoes yn gweithio. Mae adnoddau codio AI yn golygu bod hyn yn realistig i sefydliadau trydydd sector cyffredin adeiladu’r math yma o ddatrysiadau ymarferol sydd â ffocws, heb fod angen tîm datblygu na chyllideb fawr. Rydym hefyd yn hapus i helpu os ydych chi angen.

Sut mae’n gweithio

Mae’r adnodd yn cysylltu â gwasanaethau trawsgrifio AI (Google neu OpenAI) i brosesu eich sain. Bydd angen i chi ddarparu allwedd API eich hun – mae dolenni o fewn yr adnodd i’ch helpu i wneud hyn, gellir gwneud hyn am ddim neu am gost isel (mae Google yn cynnig haen API am ddim, mae angen talu am Open AI). Mae hyn yn cadw’r adnodd yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac yn golygu nad ydym yn storio eich data na’ch allweddi API, ond bydd rhaid i chi wirio eich bod yn hapus â sut mae eich darparwr API yn defnyddio eich data.

Pwysig: Nid yw’r adnodd yn cadw dim. Unwaith i chi dderbyn eich trawsgrifiad, copïwch y testun i rywle diogel. Pan fyddwch chi’n cau’r dudalen, mae’n diflannu.

Rydym yn rhannu hwn fel y gall sefydliadau trydydd sector eraill ei ddefnyddio fel y mae, dysgu ohono, neu ei addasu ar gyfer anghenion eu hunain.

Os hoffech drafod defnyddio AI yn y trydydd sector neu’r sector cyhoeddus, e-bostiwch nathan@promo.cymru 


Charity number: 1094652
Company number: 01816889