SRCDC – Dyfodol Ffilmio
Gweithdai yn cyfarparu pobl ifanc gyda’r sgiliau i gynhyrchu ffilmiau
Cleient
Canolfan Datblygu Cymunedol De Riverside
Sector
Trydydd Sector
Partneriaid
Ffilm Cymru
Gwasanaethau
Hyfforddiant ac Ymgynghoriad
Datblygodd ProMo Cymru gwrs hyfforddiant ffilm gyda chyllid derbyniwyd gan Ffilm Cymru a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Riverside.
Beth oedd y broblem?
Roedd Canolfan Datblygu Cymunedol De Riverside eisiau ymgysylltu gyda phob ifanc anodd eu cyrraedd mewn ffordd oedd yn adlewyrchu eu diddordebau o gerddoriaeth rap a hip hop.
Ein dull
Y bwriad oedd ymgysylltu gyda 25 o bobl ifanc yng Nghaerdydd ac i ddatblygu cwrs oedd yn adlewyrchu eu diddordebau. Dros gyfnod o bedwar mis dysgodd y bobl ifanc sut i greu fideos cerddoriaeth eu hunain gan ddefnyddio sgrin werdd, gan ganiatáu iddynt arddangos eu talentau mewn ffordd oedd yn eu diddori.
Canlyniadau
Roedd y prosiect yn annog dysgu pellach, yn cysylltu gyda chynulleidfa eang o bobl ifanc, ac yn cynnig cymhwyster achrededig Agored Cymru Rhoddom gymorth iddynt wrth gyfeirio at gyfleoedd addysg bellach ac i sefydliadau eraill oedd yn gweithio i amcanion y rhaglen Cyfuno/Arloesi.
“Dyma’r tro cyntaf i mi osod a chyfarwyddo ffilmio. Dwi wedi bod yn rhan o greu fideos cerddoriaeth broffesiynol o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i mi gael cyfle i ddysgu am sut i osod pethau a’r dechnoleg y tu ôl iddo,” – Sonny Double 1.