Annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth

Yr Her

Nid yw llawer o bobl ifanc Cymru yn ymwybodol bod y Senedd yn agored yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd fedru ymweld ag ef, gan gynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn democratiaeth. Roedd y Senedd yn awyddus i newid hyn wrth gyrraedd pobl ifanc y lle maen nhw, gyda chynnwys sy’n siarad yn eu hiaith ac yn eu hannog i gymryd rhan mewn democratiaeth. Felly, aethant ati i gysylltu â ProMo Cymru.

star

Cleient

Senedd Cymru

star

Sector

Cyhoeddus

star

Partneriaid

star

Gwasanaethau

Gwybodaeth Ieuenctid Digidol
Cynhyrchu cyfryngau

Ein Dull

Cafodd y crewyr cynnwys, rhan o blatfform gwybodaeth ac ymgyrchu ieuenctid ProMo, TheSprout, eu gwahodd gan y Senedd i ymweld a siarad am bopeth democratiaeth. Y nod oedd creu cynnwys a ysbrydolodd bobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac ymweld â’r Senedd. Cynlluniodd a chynhyrchodd ein crewyr cynnwys dri fideo byr ar gyfer Instagram a TikTok am bynciau sy’n bwysig i bobl ifanc.

Gan gynnwys:

• Pa mor gynaliadwy yw’r Senedd?

• Pa mor hygyrch a chynhwysol yw’r Senedd?

• Sut gall pobl ifanc yng Nghymru ymwneud â Democratiaeth?

• Ai dyma sgarff fwyaf Cymru? Diwrnod Gofal yn y Senedd

I gyd-fynd â’r fideos, cynhyrchwyd blogiau dwyieithog gan gynnwys canllaw i archwilio’r Senedd, erthygl ar ei gynaliadwyedd a darn am Senedd Ieuenctid Cymru.

Effaith

Rhoddodd y fideos byr a’r blogiau dwyieithog wybodaeth ymarferol a mewnwelediad dyfnach, gan gefnogi nod y Senedd i greu democratiaeth sy’n fwy hygyrch i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru.

Cafodd y fideos eu gweld oddeutu 18,000 gwaith ar draws Instagram gydag ymgysylltiad positif yn y sylwadau. Rhannodd un sylwad fod y Senedd “yn bendant yn le sydd werth ymweld ag ef”, tra bod un arall wedi gwneud y sylw, “gobeithio y bydd pethau fel hyn yn cael eu hymgorffori’n fwy mewn adeiladau newydd, mae hyn yn cŵl iawn” am gynaliadwyedd a nodweddion hygyrchedd yr adeilad.

@feedthesprout

The Senedd is a space for everyone to use and enjoy, whether that’s watching a Plenary Session and witnessing democracy in action or stopping off at their cafe ☕️ The staff want to make your visit as comfortable and fun as possible, so make sure to let staff know if there’s anything they can do to help! #democracy #senedd #welshparliment #advocacy #mentalhealthadvocate

♬ original sound – TheSprout

Gweithiwch gyda ni

Hoffech chi gyrraedd pobl ifanc y lle maen nhw? Gweithiwch gyda ni i greu cynnwys fideo byr sy’n ysbrydoli, yn hysbysu ac yn atseinio.

Anfonwch e-bost at andrew@promo.cymru i gychwyn sgwrs.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889