Cyd-ddylunio: sut i gynnwys pobl wrth ddylunio a gwella agweddau digidol o’ch gwasanaethau
Awdur: Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 4 munud ;
Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae’r adnodd yma ar gyfer arweinwyr digidol a rheolwyr gwasanaethau sydd yn gyfrifol am gynnwys rhanddeiliaid yn y broses o ddylunio a gwella gwasanaethau digidol. Gall rhanddeiliad fod yn bobl rydych yn eu cefnogi, cydweithwyr, partneriaid neu ymddiriedolwyr.
Mae’n cynnig help gyda 7 her neu sefyllfa posib gallech eu hwynebu. Efallai eich bod yn trio gwasanaeth newydd ac angen dysgu am anghenion pobl, neu rydych chi’n meddwl sut i gynhyrchu syniadau gyda nhw, neu efallai eich bod angen trefnu sesiwn cyd-ddylunio.
Ar gyfer pob her rydym yn cynnig 1 neu fwy o adnoddau o archif Catalyst. Ble bynnag rydych chi arni gyda’ch gwasanaeth, mi fydd rhywbeth yma i’ch helpu i gynnwys pobl yn y broses dylunio a gwella.
1. Pan fydd angen deall dyheadau, anghenion ac arferion digidol pobl
Mae deall pobl yn gam gychwynnol ym mhob proses cyd-ddylunio. Hyd yn oed os ydych chi’n gweithio gyda phobl bob dydd, ni fyddech chi’n gwybod popeth am yr hyn maent ei eisiau a’i angen a’u harferion nhw. Mae’n werth cymryd amser i siarad gyda nhw gyntaf, yn enwedig os ydych chi’n eu cefnogi.
Dysgwch sut i wneud ymchwil gyda defnyddwyr gyda chwrs e-bost Dysgu Ymchwil Defnyddwyr Catalyst.
Eisiau mwy o ddewis? Rhowch gynnig ar ddulliau eraill o wneud ymchwil gyda defnyddwyr o bell.
2. Pan na allwch chi’n gallu cynnal proses ymchwil defnyddwyr
Rydym yn argymell cynnal cyfweliadau 1-1 gyda’r bobl rydych yn eu cefnogi. Dyma’r ffordd gorau i ddeall anghenion a phrofiadau pobl. Nid yw gweithio gyda grwpiau yn gweithio cystal. Fodd bynnag, weithiau dyna’r oll sy’n bosib.
Mae ymwybyddiaeth yn bwysig. Byddwch yn ymwybodol o’r risgiau o beidio cynnal cyfweliadau gyda defnyddwyr. Gallwch ddysgu am duedd anymwybodol a’r 3 math o rwystrau i ddylunio cynhwysol.
Dim ond yn gallu cynnal grŵp ffocws? Gallwch ddysgu am sut i gael ymchwil defnyddwyr defnyddiol o grwpiau ffocws
3. Pan fydd angen i chi ddod o hyd i bobl i gymryd rhan mewn digwyddiad ymchwil neu ddylunio
Beth bynnag yw eich sefyllfa neu eich her, rydych am fod angen recriwtio pobl i gymryd rhan. Mae rhaid iddynt ffitio’r proffil cywir a theimlo fel eich bod yn gofalu amdanynt ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Mae’r un peth yn wir boed o’n gyfweliadau 1-1 neu yn weithdy.
Defnyddiwch ganllaw Catalyst: Sut i recriwtio cyfranogwyr. Mae’n gweithio ar gyfer pob gweithgaredd yma.
4. Pan fydd angen i chi ddeall profiad presennol neu ddelfrydol pobl o wasanaeth
Mae mapio siwrne pobl trwy’ch gwasanaeth yn weithgaredd ymchwil defnyddwyr gwych. Gallwch chi wneud hyn drwy ddefnyddio mewnwelediadau o ymchwil defnyddwyr, fel gweithdy gyda rhanddeiliaid neu fel rhan o weithdy cyd-ddylunio ehangach.
Dysgwch sut i ddarganfod mwy am brofiadau presennol pobl drwy ddefnyddio ein canllaw mapio siwrne bresennol. Gallwch chi wneud hyn fel rhan o’r broses ymchwil gyda defnyddwyr neu mewn gweithdy cyd-ddylunio.
Gall mapio profiadau pobl o’r gwasanaeth ar ei newydd wedd fod yn ddefnyddiol. Gallwch chi wneud hyn fel digwyddiad unigol neu fel rhan o weithdy cyd-ddylunio drwy ddefnyddio ein canllaw mapio siwrne’r dyfodol.
5. Pan fydd angen archwilio datrysiadau gydag eraill
Mae datrysiadau da yn dod o fewnwelediadau da. Ac mae mewnwelediadau da yn dod o ymchwil da gyda defnyddwyr. Efallai eich bod wedi cwblhau’r ymchwil a dogfennu eich mewnwelediadau. Os felly, rydych yn barod i rannu’r mewnwelediadau yma ac archwilio datrysiadau gydag eraill. Sesiwn cyd-ddylunio yw’r ffordd gorau i wneud hyn. Gallwch chi gynnal y rhain yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.
Darllenwch ganllaw Catalyst ar sut i gynnal gweithdy cyd-ddylunio
Gallwch chi gynnwys gweithgaredd mapio’r siwrne yn eich gweithdy.
6. Pan fydd angen i chi ganolbwyntio ar gynhyrchu syniadau gyda phobl
Mae gweithdai cyd-ddylunio yn mynd a chi o archwilio anghenion a heriau i archwilio datrysiadau. I archwilio datrysiadau mae rhaid i chi gael syniadau. Mae llawer o ffyrdd o ddod fyny efo syniadau a gallwch chi gydweithio i wneud hyn hefyd.
Dysgwch sut i gynhyrchu syniadau wrth ddatrys problemau digidol
Efallai gallwch fynd gam ymhellach a rhoi syniadau ar waith drwy ddysgu prototeipio
Gall cynhyrchu syniadau a prototeipio fod yn weithgareddau mewn gweithdy cyd-ddylunio.
7. Pan fydd angen gweld sut mae rhywbeth yn gweithio
Efallai eich bod wedi creu prototeip o wasanaeth neu dudalen gwe.
Neu efallai bod gennych wasanaeth yn barod sy’n cynnwys pwynt gwybodaeth neu gyfeirio ar eich gwefan.
Mae’n werth profi rhain gyda phobl sy’n eu defnyddio cyn gwneud newidiadau. Mae’n well profi gwasanaethau presennol fel rhan o broses ymchwil gyda defnyddwyr.
Darllenwch drosolwg yr NCVO o’r broses profi a dysgu
Cofiwch…
Sut bynnag rydych chi’n cynnwys pobl yn y broses, cofiwch eu cefnogi a chymryd gofal ohonynt. Dyma sut y byddant yn buddio o gymryd rhan. Er mwyn cael cymorth gyda hyn defnyddiwch ein canllaw recriwtio.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst