Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

Rhannu ein harbenigedd a’n gwybodaeth i helpu chi gyda’ch gwaith.

Rydym yn cynnig hyfforddiant wedi’i deilwro i’ch anghenion. Neu, os hoffech symud ymlaen yn gynt, gallem gynnig ymgynghoriad pwrpasol i’ch cefnogi.

Hyfforddiant

Mae gennym gyfres o gyrsiau hyfforddiant, fel brandio, datblygiad gwe, hysbysebu taledig, ffilmio a golygu ar ddyfais symudol, animeiddio, dylunio graffeg, fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a mwy

Ymgynghoriad

Gallem gynnig cymorth i’ch rhoi ar ben ffordd gyda’ch syniadau. Neu, os ydych yn ansicr sut i gychwyn, gallem eich arwain ar y trywydd cywir. Mae ein hymgynghorwyr wedi cyflawni cannoedd o brosiectau digidol llwyddiannus. Bydd eu profiad yn arbed amser ac yn eich helpu i gyflawni eich nodau.

Mae ein cynnig Hyfforddiant ac Ymgynghori yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol
  • Ymgyrchu Digidol
  • Tik Tok: Tueddiadau Ieuenctid a Chydgynllunio Cyfryngau Cymdeithasol
  • Cyflwyniad i Gynllunio Gwasanaeth
  • Adeiladu CRM yn Airtable
  • Eiriolaeth ar Waith
  • Cyflwyniad i Ganllawiau Brandio a Brandio
  • Canva er Budd
  • AI er Budd
  • Podlediadau
  • Sut i Greu Fideo
  • Sinemateg Symudol: Meistroli Creu Ffilm gyda Ffôn Clyfar
  • Sut i Greu Fideos ar Gyfer TikTok
  • Prototeipio a Phrofi Gwasanaethau Digidol

Os hoffech drafod ein cymorth hyfforddiant ac ymgynghori, cysylltwch ag andrew@promo.cymru