Defnyddio Trello i Reoli Prosiectau

Trello logo

Mae pob sefydliad dielw yn cael trafferth i drefnu pethau weithiau – bod hyn yn jyglo prosiectau, rheoli sawl tasg amrywiol gyda therfynau amser caeth, neu chwilio am wybodaeth mewn cronfa data enfawr.

Gall Trello helpu i symleiddio’r pethau yma i’ch sefydliad a thynnu’r pwysau gwaith. Mae Trello yn llwyfan sydd yn canolbwyntio ar drefnu a gwaith tîm cydweithredol.

Pam defnyddio Trello?

Mae Trello yn feddalwedd cydweithredol gellir ei addasu i anghenion penodol eich sefydliad. Gall fod yn arf i reoli prosiectau, yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth, ac yn ffordd i rannu syniadau mawr gyda’ch cydweithwyr.

Gyda swyddogaethau wedi’u hawtomeiddio a chynllun gellir ei addasu’n bersonol i chi, gallech reoli sawl prosiect ac arddangos y wybodaeth yn y ffordd sydd yn gweddu’ch sefydliad orau.

Screenshot of a Trello board

Nodweddion allweddol

Rhai o nodweddion allweddol Trello gall fod o fudd i sefydliadau trydydd sector yw:

Addasu

Gellir addasu Trello i anghenion eich sefydliad. Mae posib addasu a symleiddio’r rhyngwyneb defnyddiwr i weddu eich anghenion hygyrchedd penodol.

Er enghraifft, gallech chi:

  • Creu byrddau ar gyfer pob prosiect a phenodi tasgau unigol o fewn y byrddau yma gan ddefnyddio ‘rhestrau’
  • Penodi lliwiau i dasgau neu dimau. Gellir aseinio lliwiau i berson neu dîm neu farcio cynnydd tasg gyda lliwiau penodol.
Cydweithio

Gellir symleiddio’r ffordd rydych yn trefnu sawl prosiect gyda Trello. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o ddefnyddwyr, felly gellir gwahodd unrhyw nifer o bobl i weld neu olygu eich gweithle – buddiol pan fyddech chi’n trefnu timau mawr. Mae hyn yn gynorthwyol iawn wrth neilltuo a chadw trac o gynnydd prosiect.

Er enghraifft, gallech chi:

  • Neilltuo nodau a thasgau i unigolion a thimau
  • Neilltuo dyddiadau cwblhau a chreu bariau cynnydd
  • Creu rhestrau gwirio ar gyfer tasgau penodol
Awtomatiaeth

Mae gan Trello system awtomeiddio syml sydd yn gallu arbed oriau o waith i staff a gwirfoddolwyr. Gellir creu rheolau a gorchmynion ar gyfer unrhyw weithred bron. Er enghraifft, gallech chi greu rheol sydd yn dweud, ‘Pan fydd y rhestr wirio yma wedi’i chwblhau, nodwch hynny yn erbyn y dyddiad cwblhau, symudwch y cerdyn unigol i’r rhestr gorffen‘ a phostiwch sylw yn dweud, ‘Wedi’i adolygu a’i gymeradwyo’. Mae’r hyn fydda wedi cymryd amser gwerthfawr bellach yn cael ei wneud ar unwaith.

Mae Trello hefyd yn gallu integreiddio sawl rhaglen, megis:

  • Microsoft365 (Outlook, Office, Teams, OneNote, OneDrive)
  • Google (Gmail, Sheets, Docs, Drive)
  • Zoom, i drefnu cyfarfodydd tîm fel opsiwn arall i Teams
  • Slack, i gadw trac o drafodaethau am waith

Calculator and pencil close-up on a blurred background.

Costau ac ystyriaethau eraill

Er y gellir defnyddio Trello am ddim ar y lefel sylfaenol, gellir talu am lefelau eraill. Mae cyfyngiad ar y nifer o atodiadau, labeli a byrddau tîm yn y lefel am ddim. Ond, mae Trello yn cynnig gostyngiad o hyd at 75% i sefydliadau dielw, gyda phrisiau lefelau premiwm yn amrywio o £4 i £14 y mis, er nid yw hyn yn cynnwys y disgownt i sefydliadau dielw.

Mae adnoddau digidol fel arall ar gael hefyd, fel Notion, ac efallai gallant ddarparu mwy o amrywiaeth i’ch prosiect.

Cefnogaeth ar gael

Gallech ddarganfod ein holl adnoddau Cymorth Digidol yma.

Os ydych chi’n chwilio am gyngor neu gymorth i ddatblygu eich prosesau digidol fel bod eich gwaith yn haws, mae’r gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Darganfod mwy.

Welsh Third sector digital support logo with words Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector. Wavy lava lamp 'esque' circles in pinks, purples, red and orange.

Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

Joe-promo
2 Chwefror 2024

star

Adnoddau DTS

divider

Erthyglau Perthnasol

ERYICA staff and Halyna stood in front of a sign at the EYWC in Malta
star

Newyddion

O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd

Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta. Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid. O’r cychwyn cyntaf, roedd y […]

MoFG Peer Service Designer sat on a sofa with their feet up, using a laptop for research
star

Cynllunio Gwasanaeth

Trawsnewid Mynediad at Iechyd Meddwl Ieuenctid Wrth Gyd-gynhyrchu yng Ngwent

Young people and mental health professionals are working together to directly improve services for youth in Gwent. Young people co-leading the Mind Our Future Gwent (MoFG) project have been working with Gwent SPACE-Wellbeing Panels to improve access to mental health services. The panels are a single point of access for children’s emotional wellbeing and mental […]

Group photo of 5 young people and 3 staff members
star

Cydgynllunio

Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Gweithredu Ieuenctid i Ysgogwyr Newid

Empowering young people aged 16-25 to actively contribute to the ongoing dialogue and development of mental health support in England and Wales. The Youth Action Away Day for Changemakers was a collaboration between Youth Access and ProMo Cymru. This extension project aimed to give young people an opportunity to consider the next steps for the […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889