O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd

ERYICA staff and Halyna stood in front of a sign at the EYWC in Malta

Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta.


Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid.

O’r cychwyn cyntaf, roedd y digwyddiad yn brofiad dysgu enfawr i ProMo. Ymunom â’r ddirprwyaeth o Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop (ERYICA), partner hirdymor ProMo.

Gweledigaeth Gwaith Ieuenctid a rennir

Mae Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewrop (EYWC) yn ddigwyddiad hanfodol ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yn Ewrop. O dan y thema ‘Youth Work Xcelerate’, roedd yr agenda’n llawn gweithdai yn canolbwyntio ar dri maes craidd: Craidd Gwaith Ieuenctid, Amgylchedd Gwaith Ieuenctid, a Systemau Gwaith Ieuenctid.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cael y mewnwelediadau mwyaf perthnasol i’n sefydliad, dewisom sesiynau yn ymwneud â:

  • Monitro a gwerthuso gwaith ieuenctid i fesur ei effaith.
  • Archwilio technolegau newydd, gan gynnwys sut i integreiddio offer digidol arloesol i wella effeithiolrwydd gwaith ieuenctid.
  • Sut gall y sector cyhoeddus a gwirfoddol gydweithio i gryfhau gwaith ieuenctid ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Roedd y sesiynau yma yn gyfle i gydweithwyr o bob cwr o Ewrop rannu profiadau, heriau ac awgrymiadau fydda’n helpu creu map ffordd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Arferion a phrosiectau ysbrydoledig

Yn ogystal â’r gweithdai thematig, roedd sesiynau wedi’u neilltuo i rannu arferion, prosiectau a mentrau ysbrydoledig. Yn ystod y sesiynau yma, dysgom am brosiectau rhagorol, gan gynnwys:

  • Gwaith ieuenctid wedi’i lywio gan drawma o brosiect ‘Voices of Young People in Ukraine‘. Yn rhannu profiadau pobl ifanc Wcráin a’r effaith y mae rhyfel wedi’i chael ar eu bywydau.
  • Defnyddio AI mewn cyfathrebu cynhwysol gan Eurodesk. Archwilio pethau ymarferol fel capsiynau awtomatig a chynhyrchu testun amgen i sicrhau bod cynnwys digidol yn hygyrch i holl bobl ifanc. Roedd hefyd yn gyfle gwych i rannu’r offer digidol defnyddir yn ProMo.

Prif Bethau Dysgwyd

Er bod y sesiynau ffurfiol yn dda iawn, dros goffi a bwyd a sgyrsiau anffurfiol gyda chydweithwyr cafwyd mewnwelediadau gwerthfawr. Cawsom gyfle i rwydweithio â dirprwyaeth y DU, gan gynnwys Leigh Middleton o’r Asiantaeth Ieuenctid Cenedlaethol (Lloegr), Marion Allison o’r Cyngor Safonau CLD (Yr Alban), a Jamie Plant o’r Adran Addysg (Gogledd Iwerddon). Roedd yn wych cael cwrdd â Tom Weiser o WCIA, a oedd hefyd yn cynrychioli Cymru.

Sgwrsiom hefyd â thîm arweinyddiaeth ERYICA, gan gynnwys y Llywydd ar y pryd Patrick Burke a’r Cyfarwyddwr Anja Frohner, a roddodd fewnwelediadau gwych i waith ieuenctid ledled Ewrop.

Mae rhai o’r prif bethau dysgwyd yn cynnwys:

  • Rydym yn gwneud gwaith gwych yng Nghymru. Dylid ymfalchïo yn ein darpariaeth gwaith ieuenctid, gyda chydbwysedd da o gefnogaeth statudol a thrydydd sector. Roedd yn hyfryd cael adborth mor gadarnhaol am ein prosiectau, fel llinell gymorth Meic a Meddwl Ymlaen Gwent.
  • Rydym yn arweinydd gwaith ieuenctid digidol. Ar ôl siarad â llawer o’n cyfoedion Ewropeaidd, mae’n ymddangos ein bod ar y blaen pan ddaw at arbenigedd digidol a Deallusrwydd Artiffisial. Mae ein harbenigedd wedi’i seilio ar flynyddoedd o ddefnyddio digidol fel adnodd wrth ymgysylltu â phobl ifanc.

Beth nesaf?

Bydd canlyniadau’r gynhadledd hon yn bwydo i mewn i Fap Ffordd Ewropeaidd newydd a fydd yn tywys ein cymuned am y pum mlynedd nesaf. Rydym yn gyffrous i weld sut y bydd ein cyfraniadau ni, a gwaith cydweithwyr ledled Ewrop, yn llunio dyfodol gwaith ieuenctid.

Halyna Soltys
15 Medi 2025

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]

Love Your Period Campaign Poster
star

Cydgynllunio

Caru dy Fislif: Ymgyrch Wedi’i Chyd-gynhyrchu

Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i roi llwyfan i leisiau ifanc a chreu newid ystyrlon. Mae Caru Dy Fislif, ymgyrch a gynhyrchwyd ar y cyd â llinell gymorth Meic a phobl ifanc o Gymru, yn enghraifft berffaith o hyn. Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymgyrchydd ifanc Molly Fenton, sylfaenydd yr ymgyrch Love Your Period, […]

A blonde haired woman in a black roll neck jumper doing sign language
star

ProMo Cymru

Signapse: Defnyddio AI i Wella Hygyrchedd i Ddefnyddwyr BSL

Mae ProMo Cymru yn partneru â Signapse AI i droi cynnwys digidol yn fwy hygyrch gyda Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae ProMo yn defnyddio’r bartneriaeth hon i archwilio sut y gall cyfieithu BSL â chymorth AI gefnogi cyfathrebu digidol wrth arbed amser a lleihau rhwystrau i weithredu. Mae Signapse yn sefydliad Byddar yn gyntaf sy’n […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889