Signapse: Defnyddio AI i Wella Hygyrchedd i Ddefnyddwyr BSL

A blonde haired woman in a black roll neck jumper doing sign language

Mae ProMo Cymru yn partneru â Signapse AI i droi cynnwys digidol yn fwy hygyrch gyda Iaith Arwyddion Prydain (BSL).


Mae ProMo yn defnyddio’r bartneriaeth hon i archwilio sut y gall cyfieithu BSL â chymorth AI gefnogi cyfathrebu digidol wrth arbed amser a lleihau rhwystrau i weithredu.

Mae Signapse yn sefydliad Byddar yn gyntaf sy’n defnyddio AI i gyfieithu cynnwys ysgrifenedig yn fideos iaith arwyddion o ansawdd uchel. Gellir mewnosod y cyfieithiadau yma’n uniongyrchol i wefannau gan ddefnyddio ategyn syml, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad at gyfieithiadau BSL mewn amser real wrth iddynt ryngweithio â chynnwys tudalen. Yn ystod y cyfnod datblygu yma, cefnogir y dechnoleg gyda dull person yn rhan o’r broses, lle mae cyfieithwyr BSL cymwys yn adolygu’r AI tra ei fod yn parhau i ddysgu.

A still from a webpage on the ProMo Cymru website to showcase the signapse AI tool. There is a box on the bottom right hand corner with a man in a black shirt doing sign language of the content on the web page.
Sgrinlun o wefan ProMo Cymru yn dangos sut mae ategyn BSL Signapse yn gweithio


I gefnogi datblygiad parhaus y dechnoleg, rydym wedi rhannu 170 o erthyglau o’n gwefan i helpu i hyfforddi system AI Signapse.

Mae Signapse yn datblygu’r dechnoleg yma gyda chefnogaeth prosiect gwerth $1.5 miliwn a ariennir gan Google. Fel rhan o’r gwaith yma, gall nifer gyfyngedig o sefydliadau trydydd sector yn y DU ac UDA gyfieithu hyd at 10 tudalen gwefan i Iaith BSL neu ASL.

Rydym yn falch o fod yn un o’r sefydliadau a ddewiswyd i gymryd rhan. Rydym wedi gweithio gyda Signapse i gyfieithu ein cyfres adnoddau ‘Creu Gwasanaethau Cynhwysol‘.

Ar hyn o bryd, mae’r ategyn yma a ddarperir gan Signapse ar gael ar gyfer tudalennau Saesneg yn unig wrth iddynt weithio ar berffeithio’r defnydd o AI. Maent wedi ymrwymo i archwilio’r posibilrwydd o ehangu i ieithoedd eraill yn y dyfodol. I ddysgu mwy am gynnig Signapse i sefydliadau’r trydydd sector, cliciwch yma.

Tania Russell-Owen
11 Ionawr 2026

star

ProMo Cymru

divider

Erthyglau Perthnasol

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]

Love Your Period Campaign Poster
star

Cydgynllunio

Caru dy Fislif: Ymgyrch Wedi’i Chyd-gynhyrchu

Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i roi llwyfan i leisiau ifanc a chreu newid ystyrlon. Mae Caru Dy Fislif, ymgyrch a gynhyrchwyd ar y cyd â llinell gymorth Meic a phobl ifanc o Gymru, yn enghraifft berffaith o hyn. Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymgyrchydd ifanc Molly Fenton, sylfaenydd yr ymgyrch Love Your Period, […]

ERYICA staff and Halyna stood in front of a sign at the EYWC in Malta
star

Newyddion

O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd

Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta. Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid. O’r cychwyn cyntaf, roedd y […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889