Cefnogi Kidscape i Wella eu Cefnogaeth Bwlio

Llun o ddau aelod o staff Kidscape o flaen sgrin sy'n dweud 'roedden ni'n gwybod ein bod ni eisiau helpu pobl ifanc, doedden ni ddim yn gwybod sut i wneud eto'

Bu ProMo Cymru yn cefnogi Kidscape i ddatblygu system gefnogaeth fwy effeithiol i bobl ifanc sy’n profi bwlio, gan symud tu hwnt i weithdai unigol i gymorth parhaus.

Beth oedd y broblem?

Mae elusen Kidscape yn canolbwyntio ar atal bwlio ac amddiffyn plant. Maent yn darparu adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i greu amgylchedd diogel. Nod eu gwaith yw grymuso plant a rhoi’r adnoddau i oedolion ymateb yn effeithiol i fwlio.

Roedd y sefydliad wedi adnabod bwlch allweddol yn eu system gefnogaeth. Roedd pobl ifanc oedd yn mynychu’r gweithdai ymarferol ZAP wedi mynegi angen am gefnogaeth barhaus. Roeddent yn teimlo fel pe baent yn cael eu gadael i ddelio â sefyllfaoedd bwlio ar eu pen eu hunain ar ôl y gweithdai.

Fe ymunodd Kidscape â Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol ProMo Cymru i ddatblygu system gefnogaeth gynaliadwy ac effeithiol i bobl ifanc sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

Testun sy'n dweud 'cefnogaeth ddigidol trydydd sector' ar gefndir oren, pinc a porffor

Ein dull

Mae ProMo Cymru yn cyflwyno’r Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol i sefydliadau trydydd sector yng Nghymru. Gyda’r rhaglen yma, mae sefydliadau yn derbyn hyfforddiant, mentora ac arweiniad i gynllunio a datblygu gwasanaeth digidol newydd, neu i ail feddwl gwasanaethau presennol, gan ddefnyddio’r fethodoleg cynllunio gwasanaeth. Mae cyfranogwyr yn dilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflwyno i ddarganfod datrysiadau sydd yn gwneud gwir wahaniaeth wrth ganolbwyntio ar y defnyddwyr.

Bwriad y cwrs yw darparu cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol hygyrch sydd yn canolbwyntio ar y defnyddwyr, fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i gymunedau Cymru.

Ymchwil anghenion defnyddwyr

Cynhaliodd Kidscape ymchwil defnyddwyr trwy grwpiau ffocws a holiaduron, oedd yn datgelu datgysylltiad sylweddol rhwng anghenion pobl ifanc a’r gefnogaeth roeddent yn ei dderbyn gan ysgolion.

Yn y grwpiau ffocws, daeth yn amlwg nad oedd athrawon yn darparu’r gefnogaeth roedd pobl ifanc wir eisiau. Roedd pobl ifanc yn dweud fod yr ysgol yn “ymyrryd gormod” ac yn “cadw’r [broblem rhwng ffrindiau] i lusgo ymlaen yn hirach nag oedd angen”.

Awgrymodd y bobl ifanc y dylid cael “stafell ymlacio” digidol, fel bod pobl ifanc yn gallu “siarad gyda rhywun sy’n gwrando. Dim athrawon, oherwydd bod athrawon yn adrodd am bethau pan nad ydynt yn ddigon difrifol i gael eu hadrodd. Mae athrawon yn rhoi pwysau ar bobl ac yn cymryd ochrau. Rhywun o elusen galli di ymddiried ynddyn nhw, ar dy ffôn”.

Yn ddiddorol, roedd thema debyg yn yr holiadur. Pan ofynnwyd “Petawn ni’n gallu gwneud un peth fyddai’n gwneud gwahaniaeth i chi a’r sefyllfa fwlio, beth fyddai hwnnw?”, roedd sawl ymateb yn sôn am rôl athrawon. Dyma un o’r sylwadau: “Siarad gydag athrawon a gwneud iddynt weithredu. Nid yw ysgolion yn dilyn gweithdrefnau gwrth-fwlio. Maent yn brwsio bwlio o dan y carped. Maent yn gasleitio’r person sy’n cael ei fwlio ac yn codi ofn ar rieni.” Roedd ymatebion eraill yn dweud eu bod eisiau: “athrawon yn yr ysgol i sylwi mwy a helpu plant ddeall effaith bwlio” a bod plant “yn cael ffrae gan yr athrawon, ond maen nhw’n dal i fwlio”.

Roedd yn ymddangos o’r adborth bod pobl ifanc yn teimlo bod ysgolion yn anfodlon i weithredu ar fwlio. Pan mae ysgol yn ymateb, nid yw pobl ifanc yn ystyried hyn yn effeithiol. 

Dwy aelod o staff Kidscape yn gwneud cyflwyniad. Maent ar y sleid sy'n sôn am y broses o gasglu adborth gan bobl ifanc

Datblygu datrysiad

Yn dilyn yr ymchwil, fe wnaeth Kidscape ail fframio’r her:  “Sut gallwn ni helpu pobl ifanc sy’n dioddef bwlio i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol?”

Y prototeip gwreiddiol oedd Pas ZAP sef dogfen ddigidol y gellid ei rhoi i blant ar ôl mynychu gweithdy ZAP. Y syniad oedd bod pobl ifanc yn gallu dangos y pas i’w hathrawon er mwyn dangos eu bod wedi mynychu un o’r gweithdai. Byddai’r ddogfen yn cynnwys cyngor i athrawon ar sut i ymateb i fwlio, a fyddai’n grymuso plant i deimlo’n fwy parod i ddelio â’r sefyllfa a theimlo’n llai unig – fel bod Kidscape dal yn eu cefnogi.

Profi ac Iteru

Wrth brofi’r prototeip, fe gasglodd Kidscape adborth a arweiniodd at addasiadau sylweddol. Roedd prototeip gwreiddiol y pas yn anymarferol oherwydd nid oes gan lawer o blant fynediad at eu ffôn yn yr ysgol neu’n anfodlon i’w defnyddio o flaen eu cyfoedion. Roedd rhaid meddwl am y ffordd orau i helpu plant gysylltu â’u hathrawon, oherwydd bod systemau gwahanol mewn ysgolion ar draws y wlad.

Yn y pen draw, roedd iteriad Kidscape yn syml. Roeddent eisoes wedi anfon e-bost i rieni ar ôl gweithdai ZAP, felly fe wnaethant ychwanegu adnoddau i blant, gan gynnwys y Pas ZAP, i greu Pecyn Cymorth. Roedd y Pecyn Cymorth yn cynnwys ymarferion i leddfu pryder, fel bod plant yn gallu teimlo’n fwy diogel. Yn ogystal â hynny, mae plant (gyda chymorth eu rhieni) yn gallu cysylltu gyda’u hathrawon pe baent yn dymuno gwneud, mewn ffordd sy’n gweithio i’w hysgol nhw.

Drwy adnabod yr angen i gefnogi athrawon yn uniongyrchol, datblygodd Kidscape bosteri i’r stafell athrawon gyda chyngor ymarferol ar gyfer ymyriadau bwlio. Fe wnaethant ddylunio laniards i staff, i sicrhau bod y cyngor ar gael yn gyfleus. 

Gwersi a dysgu

Trwy ddarparu pecyn cymorth cynhwysfawr, maent wedi ehangu cefnogaeth tu hwnt i’r gweithdai cychwynnol, gan sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at adnoddau gwerthfawr a thechnegau rheoli pryder ar ôl mynychu’r sesiwn.

Nod darparu laniards a phosteri i’r stafell athrawon oedd grymuso athrawon gyda’r hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ymateb yn effeithiol i fwlio. Mae Kidscape yn gobeithio bod hyn am feithrin awyrgylch cefnogol ac ymatebol mewn ysgolion i bob person ifanc.

Bydd Kidscape yn parhau i gasglu adborth i fireinio eu dull, ond maent yn hyderus bydd y newidiadau yma’n creu rhwyd diogelwch i bobl ifanc sy’n dioddef bwlio, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi a’u hamddiffyn.

Pan ofynnon ni beth oedd agwedd mwyaf defnyddiol y rhaglen, rhannodd aelod o staff Kidscape:

“Mae’r model diemwnt dwbl yn wych. Mae’n rhyfeddol sut gallech chi gychwyn yn meddwl un peth mor bendant, ac yna diweddu ar lwybr cwbl wahanol. Er enghraifft, ni fysant byth wedi meddwl byddai plant eisiau i’w hathrawon weithio mwy ar sail gwybodaeth. Mae’n ddefnyddiol meddwl yn nhermau’r sgrialfwrdd: mae’n golygu dy fod yn profi, newid ac yn gwneud gwelliannau ar sail yr adborth.”

Roedd Kidscape wedi gwynebu heriau wrth drio casglu adborth, yn enwedig gan bobl ifanc. Maent rŵan yn blaenoriaethu datblygu grŵp Llais Pobl Ifanc er mwyn gwella ymgysylltiad.

Pan ofynnwyd am yr her fwyaf ar y rhaglen, fe ddywedon nhw:

“Cael adborth! Nid yw’n beth hwyl i’w wneud bob tro, yn enwedig os wyt ti’n berson ifanc. Nid yw llenwi holiadur neu ymuno â grŵp ffocws yn uchel ar restr blaenoriaethau pobl ifanc. Roedd yn heriol iawn, ond mae wedi ein gwthio ni i roi mwy o amser i ddatblygu grŵp Llais Pobl Ifanc yn Kidscape.”

Diddordeb yng ngrym cynllunio gwasanaeth ar gyfer eich sefydliad?

Yma yn ProMo Cymru rydym yn helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gyda’r bobl sydd yn defnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth. Mae ein dull yn cyfuno ein profiad gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, cyd-gynllunio, ac ymgysylltu diwylliannol ac mae ein meddwl creadigrwydd digidol yn sail iddo.

Roedd Cyswllt Conwy yn un o chwe sefydliad trydydd sector a fynychodd garfan 2024 y Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol. Diolch i gyllid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’r prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector. Roedd ProMo Cymru yn gallu cynnig tâl o £4,800 i bob sefydliad fu’n cymryd rhan i gyfrannu tuag at amser staff ac adnoddau ar gyfer y cwrs 7 mis.

Halyna Soltys
10 Ebrill 2025

star

Cynllunio Gwasanaeth

star

Astudiaethau Achos DTS

star

Hyfforddiant DTS

star

Digidol Trydydd Sector

divider

Erthyglau Perthnasol

ERYICA staff and Halyna stood in front of a sign at the EYWC in Malta
star

Newyddion

O Gymru i Falta: Uchafbwyntiau’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd

Yn gynharach eleni, cafodd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys ProMo Cymru, Halyna, y cyfle i fynychu’r 4ydd Confensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd ym Malta. Daeth dros 500 o aelodau’r gymuned gwaith ieuenctid ynghyd ar gyfer y digwyddiad yma, sydd yn digwydd bob 5 mlynedd, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr a gweithwyr ieuenctid. O’r cychwyn cyntaf, roedd y […]

MoFG Peer Service Designer sat on a sofa with their feet up, using a laptop for research
star

Cydgynllunio

Trawsnewid Mynediad at Iechyd Meddwl Ieuenctid Wrth Gyd-gynhyrchu yng Ngwent

Young people and mental health professionals are working together to directly improve services for youth in Gwent. Young people co-leading the Mind Our Future Gwent (MoFG) project have been working with Gwent SPACE-Wellbeing Panels to improve access to mental health services. The panels are a single point of access for children’s emotional wellbeing and mental […]

Group photo of 5 young people and 3 staff members
star

Cydgynllunio

Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Gweithredu Ieuenctid i Ysgogwyr Newid

Empowering young people aged 16-25 to actively contribute to the ongoing dialogue and development of mental health support in England and Wales. The Youth Action Away Day for Changemakers was a collaboration between Youth Access and ProMo Cymru. This extension project aimed to give young people an opportunity to consider the next steps for the […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889