Hysbysu, addysgu a grymuso’r trydydd sector yng Nghymru gyda digidol

star

Cleient

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

star

Sector

Trydydd Sector Cymru

star

Partneriaid

CGGC

star

Gwasanaethau

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad Cynllunio Gwasanaeth DigiCymru

Beth oedd y broblem?

Sefydlwyd y prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector i ymateb i’r bwlch digidol amlwg sydd yn gyffredin yn nhrydydd sector Cymru.

Yn ôl Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau 2023, mae llawer o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol wrth fabwysiadu technolegau digidol. Mae’r heriau hyn yn cynnwys sgiliau digidol cyfyngedig ymhlith staff, cyllid annigonol ar gyfer mentrau digidol, a diffyg cymorth penodol.

Er y potensial sydd gan adnoddau digidol i gynyddu effeithlonrwydd a gwella darpariaeth gwasanaeth, nid yw cyfran sylweddol o’r sector yn gallu elwa’n llawn o’r datblygiadau yma yn y maes digidol.

Nod y prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector yw pontio’r bwlch yma gan ddarparu hyfforddiant, adnoddau, a chymorth sgiliau digidol hanfodol er mwyn rhoi grym i sefydliadau ffynnu yn yr oes ddigidol.

Tri aelod staff yn eistedd o gwmpas bwrdd yn gwenu

Ein dull

Rydym yn gweithio gyda CGGC er mwyn cyrraedd sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Byddem yn cyflawni pedwar peth i greu newid cadarnhaol.

  1. DigiCymru – gwasanaeth am ddim sydd yn helpu sefydliadau trydydd sector gydag unrhyw heriau sydd yn ymwneud â digidol
  2. Creu rhwydwaith o sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru i ddarparu hyfforddiant ar ymarfer digidol dda
  3. Darparu cefnogaeth a hyfforddiant teilwredig, ac ariannu sefydliadau’r trydydd sector i gyd-gynllunio gwasanaethau digidol
  4. Creu a rhannu cynnwys yn dangos beth mae digidol da yn y trydydd sector yn edrych fel

Canlyniadau

Mae dros 80 o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru wedi derbyn cymorth digidol trwy’r prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector.

Mae’r materion sydd wedi codi ymysg yr elusennau a’r sefydliadau dielw wedi amrywio’n fawr, ond y tri mwyaf cyffredin oedd angen cymorth ag ef oedd: CRM, Office 365, Google Drive, a Chyfryngau Cymdeithasol.

Mae’r adborth derbyniwyd hyd yma am DigiCymru wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda 78.6% yn dweud bod y gwasanaeth yn ‘Ardderchog’. Gofynnwyd beth oedd y peth mwyaf defnyddiol iddynt ddysgu o’r sesiynau, dyma rhai o’r ymatebion:

“Roedd y bobl y siaradais i â nhw yn frwdfrydig iawn ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau oedd gen i. Rhoddwyd awgrymiadau wedi’u teilwra i mi ar sut i symud ymlaen yn y dyfodol.”

“Cefais fy atgoffa o arfer gorau. Wrth weithio ar eich pen eich hun, mae’n hawdd meddwl nad ydych chi’n defnyddio’r prosesau cywir. Roedd yn ffordd wych o rannu syniadau/arferion gorau.”

“Pwrpasol i weddu i’n hanghenion. Hygyrch i bob aelod o’n tîm. Diolch!”

Am unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â andrew@promo.cymru am sgwrs.