Cindy Chen

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltiad

Fel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltiad yn ProMo, mae Cindy wedi goruchwylio prosiectau gwerth hyd at £1.5 miliwn yn llwyddiannus, gan arddangos ei harbenigedd yn rheoli rhaglenni cymhleth, sy’n cael effaith mawr.

Mae gan Cindy brofiad helaeth mewn gwaith ieuenctid a chyfathrebu, gyda thystysgrif Lefel 3 Ymarfer Gwaith Ieuenctid a chymwysterau ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth a rheoli o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae’n arwain ac yn datblygu timau i weithredu prosiectau a gwasanaethau arloesol o ansawdd uchel. Mae ganddi hanes profedig o reoli prosiectau, monitro perfformiad a chyd-gynllunio ystyrlon gyda phobl ifanc a’r gymuned ehangach.

Cysylltwch os hoffech siarad â Cindy am ei gwaith.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889