Cindy Chen
Prif Weithredwr ar y Cyd
Mae Cindy yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad cyffredinol i ProMo Cymru, gan weithio’n agos gyda’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a’r tîm staff i sicrhau bod ein cenhadaeth a’n gwerthoedd yn arwain popeth a wnawn.
Gyda hanes profedig o oruchwylio prosiectau gwerth hyd at £1.5 miliwn, mae’n rhagori wrth reoli rhaglenni cymhleth, effaith mawr sy’n cynnwys nifer o randdeiliaid i gyflawni canlyniadau.
Daw Cindy â phrofiad helaeth mewn gwaith ieuenctid a chyfathrebu. Mae ganddi gymwysterau ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth a rheolaeth, ochr yn ochr â Thystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid.
Gan arwain a datblygu timau i weithredu prosiectau a gwasanaethau arloesol o ansawdd uchel, daw Cindy â hanes profedig o reoli prosiectau, monitro perfformiad a chyd-gynllunio ystyrlon gyda phobl ifanc a’r gymuned ehangach.
Cysylltwch os hoffech siarad â Cindy am ei gwaith.